Tocynnau Bws

Tocynnau bws ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24
Ar hyn o bryd, cynigir tocynnau bws â chymhorthdal i fyfyrwyr amser llawn. Byddwch yn cael cyfle i brynu tocyn bws wrth ichi gofrestru, neu gallwch gael gafael ar un wrth gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr y Coleg.

Gall fyfyrwyr sy’n gymwys i gael cyllid FCF wneud cais am docyn bws drwy eu cais FCF

Tycoch / Llwyn y Bryn / Llys Jiwbilî
Gall fyfyrwyr brynu tocyn bws First Cymru a fydd yn eu galluogi i gyrraedd a gadael unrhyw un o gampysau’r Coleg. Gellir defnyddio’r tocyn bws hefyd yn yr hwyr ac ar y penwythnos ar fysiau First Cymru.

Pris tocyn bws yw £335, ac mi fydd yn ddilys o 1 Medi 2023 i 30 Mehefin 2024.

Cynllun rhandaliadau (ffi weinyddol £15)

  • Rhandaliad 1 - £150
  • Rhandaliad 2 (yn ddyledus ar 6 Tachwedd 2023) - £100, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 06/11/23
  • Rhandaliad 3 (yn ddyledus ar 8 Ionawr 2024) - £100, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 08/01/24

Sylwch y bydd angen sieciau ôl-ddyddiedig neu fanylion cerdyn debyd/credyd arnoch er mwyn sefydlu’r cynllun rhandaliadau. Ni all ApplePay na GooglePay sefydlu cynlluniau rhandaliadau.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n mynychu Campws Tycoch ac nad ydynt yn cael eu gwasanaethu mwyach gan lwybrau First Cymru, gellir prynu tocyn bws NAT o’r Coleg. Rhaid i’r myfyrwyr ddarparu llun pasbort o’u hunain.

Efallai y bydd y cynlluniwr taith ar-lein First Cymru yn ddefnyddiol i chi drefnu’ch taith i’r (ac o’r) Coleg.

Gorseinon
Gall fyfyrwyr brynu tocyn bws Trafnidiaeth De Cymru a fydd yn eu galluogi i deithio ar ddechrau a diwedd diwrnod coleg drwy ddefnyddio Gwasanaeth Bws y Coleg.

Gellir defnyddio tocyn bws Gorseinon ar ddiwrnodau wythnos Rhwydwaith First Cymru hyd at 6pm, yn ystod y tymor yn unig.

Pris tocyn bws yw £335, ac mi fydd yn ddilys o 1 Medi 2023 i 30 Mehefin 2024*.

Cynllun rhandaliadau (ffi weinyddol £15)

  • Rhandaliad 1 - £150
  • Rhandaliad 2 (yn ddyledus ar 6 Tachwedd 2023) - £100, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 06/11/23
  • Rhandaliad 3 (yn ddyledus ar 8 Ionawr 2024) - £100, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 08/01/24

Sylwch y bydd angen sieciau ôl-ddyddiedig neu fanylion cerdyn debyd/credyd arnoch er mwyn sefydlu’r cynllun rhandaliadau. Ni all ApplePay na GooglePay sefydlu cynlluniau rhandaliadau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cyllid Myfyrwyr yng nghampws Tycoch 01792 284000 / Campws Gorseinon 01792 890700 

* Gallai'r pris newid.

22/06/23