Sicrhau Eich Dyfodol

Mae ceisiadau ar agor!
Sicrhewch eich lle ar ein cyrsiau amser llawn ar gyfer Medi 2026.
Po gynharaf y byddi di’n gwneud cais, gorau oll fydd dy siawns o sicrhau lle ar y cwrs o dy ddewis.

Tachwedd
Nosweithiau agored
Mae ein nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r darlithwyr, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.

8 Tachwedd
Digwyddiad Agored Addysg Uwch
10am-1pm
Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Ymunwch â ni yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti i ddysgu rhagor am y cyrsiau addysg uwch canlynol:
- BA Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon
- HND a BA Rheolaeth Busnes
- HND Cyfrifiadura Cymhwysol
- HNC Rheolaeth Adeiladu
- HNC a HND Peirianneg Fecanyddol
- HNC a HND Peirianneg Drydanol ac Electronig
- HNC Gwyddoniaeth Gymhwysol
- PcET a ProfCE Addysgu
- Gradd Sylfaen Ymarfer Datblygiad Plentyndod
- Gradd Sylfaen e-Chwaraeon.

Gwybodaeth bwysig am gasglu canlyniadau ym mis Awst!
Bydd eich canlyniadau yn barod i’w casglu ar y dyddiadau canlynol:
- Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 a Bagloriaeth Cymru: Dydd Iau 14 Awst o 9.15am
- TGAU a Galwedigaethol Lefel 2: Dydd iau 21 Awst o 9.15am.
Bydd eich canlyniadau hefyd ar gael ar-lein ar eich eGDU. Dewch â’ch cerdyn adnabod gyda chi i gasglu eich canlyniadau. Os oes rhywun arall yn casglu eich canlyniadau, bydd angen i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig a bydd angen i’r unigolyn sy’n casglu eich canlyniadau ddod â cherdyn adnabod. Ni fyddwn yn darparu canlyniadau dros y ffôn / e-bost.
Pwysig: Oherwydd y gwaith adnewyddu ar gampws Gorseinon, bydd mannau parcio yn gyfyngedig - defnyddiwch faes parcio Bloc A/Bloc Celfyddydau.
Canlyniadau Safon Uwch 2025
Cyfradd pasio
Graddau A*-A
Graddau A*-B
Graddau A*-C
Broadway
Mae ein myfyrwyr yn darparu triniaethau o’r ansawdd gorau am bris anhygoel yn ein salonau o safon broffesiynol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau steilio a lliwio gwallt gan ddefnyddio’r brandiau salon gorau.
Canolfan Chwaraeon
Mae’r cyfleusterau yn y Ganolfan Chwaraeon yn cynnwys campfa, neuadd chwaraeon, ystafell troelli/beicio dan do ac ystafell codi pwysau. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, fel pilates, troelli a hyfforddiant dwyster uchel.
Vanilla Pod
Mae bwyty’r Vanilla Pod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o’r cyrsiau arlwyo a lletygarwch ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr mewn cegin a bwyty proffesiynol.

6 confirmed Oxbridge places
99%
overall A Level pass rate





