Trin gwallt yn agor byd o gyfleoedd i'r cyfarwyddwr artistig Casey


Updated 02/06/2015

Mae trin gwallt yn fwy na dim ond swydd naw i bump fel y tystia Casey Coleman, cyfarwyddwr artistig yn Ocean Hairdressing, Caerdydd ac un o gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe.

Roedd Casey wedi dangos sut mae'r diwydiant yn ymwneud llawer mwy â bod yn greadigol a'i fod yn cynnig cyfle i ddilyn gyrfa mewn siopau trin gwallt a hefyd ym myd steilio a dylunio ffasiwn, teledu a byd ffilm. Ar ôl gweithio am gyfnod byr mewn siop trin gwallt, aeth ymlaen i weithio mewn canolfan alwadau cyn dychwelyd i addysg amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle y dechreuodd ei ddiddordeb brwd mewn trin gwallt.

“Roeddwn i eisiau bod yn ddylunydd ffasiwn. Heb fynd i'r coleg yn amser llawn i ddechrau, fyddwn i ddim yn steilydd fel ydw i heddiw,” meddai Casey.

Ers hynny mae wedi parhau â'i yrfa, ac erbyn hyn mae'n steilydd o fri yn ei faes ac yn teithio'r byd yn gweithio gyda'r brandiau mawr yn ogystal ag yn Wythnos Ffasiwn Llundain a chael erthygl wedi'i chyhoeddi amdano yn Vogue.

Ond yn greiddiol i'w lwyddiant fu'r datblygiad parhaus gyda chymwysterau galwedigaethol. Astudiodd a phasiodd NVQ Lefel 2 a Lefel 3 Trin Gwallt, NVQ Lefel 2 Torri Gwallt Dynion a NVQ Lefel 1 Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy'r darparwr hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae ei daith addysgol wedi arwain at ennill lle yn rownd derfynol y gwobrau arobryn Gwobrau VQ (Cymwysterau Galwedigaethol) Cymru. Mae'n un o'r chwech sydd wedi mynd trwyddo i'r rownd derfynol ac yn ceisio ennill y teitl Dysgwr y Flwyddyn VQ yn y seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir ar 9 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Wedi'i drefnu gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Cholegau Cymru, mae Gwobrau VQ yn helpu i roi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae'r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn eu hwythfed flwyddyn bellach ac yn digwydd yr un pryd â'r Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol, sef dathliad ledled y DU o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr a gynhelir ar 10 Mehefin.

“Does dim ots ble ydych chi yn eich gyrfa, mae addysg barhaus a'r gallu i ddatblygu eich sgiliau hollbwysig," dywedodd Casey. “Mae'n rhaid i chi ddal ati i ddilyn cyrsiau ac ennill cymwysterau i sicrhau eich bod chi'n aros ar flaen y gad. Mae'n rhaid i chi fod yn ostyngedig. Mae mynd yn ôl i'r coleg ac astudio tra'ch bod chi'n gweithio yn gwneud i chi edrych ar bopeth rydych chi'n ei wneud ac yn eich helpu chi i ddatblygu’ch gyrfa. Hyd yn oed ar lefel cyfarwyddwr yn y salon, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n dal i hyfforddi, a thrwy'r busnes cyfan rydyn ni'n hyrwyddo dilyniant parhaus trwy ddefnyddio cymwysterau a hyfforddiant.”

Dywedodd Bernie Wilkes, Rheolwr Maes Dysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae Casey yn ysbrydoliaeth fawr i'r myfyrwyr trin gwallt - heddiw ac yn y dyfodol."

Y myfyrwyr eraill yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn VQ yw: James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol yn Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn-ddysgwr Coleg Penybont Michael Whippey, 23, prif hyfforddwr yn Shardeloes Farm Equestrian Centre, Amersham; Paul Wiggins, 35, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yng Ngwasanaethau Yswiriant BPW, Casnewydd; cyn-ddysgwr Coleg Penybont Serena Torrance, 23, o Faesteg sy'n dilyn gradd mewn troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd a'r cyn-ddysgwr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21, o Gapel Dewi, saer coed hunangyflogedig ac aelod o'r tîm WorldSkills UK.

Mae Gwobr Dysgwr y Flwyddyn VQ yn dathlu dysgwyr sydd wedi dangos dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi cael llwyddiant mawr yn eu maes.

Cafodd Casey a'r gweddill yn rownd derfynol Gwobrau VQ eu llongyfarch gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James.

“Mae Gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae'n arwydd o ymroddiad i'ch proffesiwn o ddewis," dywedodd. “Mae rhaglenni proffesiynol a personol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff er mwyn iddynt allu dilyn llwybr dysgu sy'n ateb anghenion y cwmni, y cwsmer ac anghenion unigolion."

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu ni i ddathlu cyflogwyr a dysgwyr yng Nghymru sydd eisoes yn gwneud ychydig bach mwy o ymdrech i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Os ydym am weld economi Cymru yn parhau i dyfu mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn ar gyfer llwyddiant er mwyn cael gweithlu o safon fyd-eang yng Nghymru."

Llun a Chysylltiadau Cyhoeddus: Duncan Foulkes Public Relations

Tags: