Ysgoloriaeth i'r myfyriwr Mynediad Felix


Updated 21/07/2015

Mae'r myfyriwr Mynediad i'r Gyfraith Felix Green yn dathlu ar ôl iddo gael cynnig amodol i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ac Ysgoloriaeth Cymhelliant o £1,500 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn gyn ddisgybl Ysgol Gyfun Gŵyr, cafodd Felix yr ysgoloriaeth gan ei fod yn bwriadu astudio gradd yn y Gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rwy'n falch iawn bod Coleg Gŵyr Abertawe, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi gwneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar adeg sy'n ein gweld ni'n ceisio annog dysgwyr i barhau â'u sgiliau Cymraeg yn y coleg," dywedodd yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Anna Fflur Davies.

"Mae Felix wedi gweithio'n eithriadol o galed dros saith mlynedd yn y coleg ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed. Hoffwn ei longyfarch a dymuno bob llwyddiant iddo yn y dyfodol yn yr yrfa o'i dewis - mae'n esiampl wych i bob myfyriwr."

Tags: