Caergrawnt yn paratoi glaslanciau De Cymru ar gyfer llwyddiant


Updated 13/10/2016

Mae academydd o Brifysgol Caergrawnt, sy’n hanu o Abertawe yn wreiddiol, newydd gwblhau taith wythnos o hyd yn Ne Cymru i ysbrydoli 875 o bobl yn eu harddegau i fynd i’r prifysgolion gorau.

Mae Dr Jonathan Padley, Swyddog Ehangu Cyfranogiad yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn rheolaidd yng Nghymru. Ond yr wythnos diwethaf, roedd wedi cyrraedd targed uchelgeisiol sef cwrdd â’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Blwyddyn 13 o ysgolion gwladol yn Ne Cymru a Phowys sy’n gobeithio mynd i Rydychen a Chaergrawnt, yn ogystal â lansio rhaglen fynediad newydd i fyfyrwyr Blwyddyn 12, a siarad â myfyrwyr TGAU mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ysgol. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd Dr Padley wedi cwrdd â 875 o fyfyrwyr (Blwyddyn 10-13) ac 80 o athrawon o 71 o ysgolion a cholegau.

Roedd taith Dr Padley wedi cynnwys saith digwyddiad Canolfan Seren i fyfyrwyr Blwyddyn 12-13, rhieni ac athrawon yn: Ysgol Bassaleg (Casneweydd); Coleg Castell-nedd Port Talbot (Castell-nedd); Coleg Gŵyr Abertawe (Gorseinon); Ysgol Gyfun Bryn Hafren (Y Barri); Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Caerdydd); Coleg y Cymoedd (Nantgarw); ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth (Caerfyrdddin). Roedd mwy na 550 o fyfyrwyr ar draws De Cymru a Phowys wedi mynychu digwyddiadau Seren. Cafodd y myfyrwyr gyngor gwerthfawr ar fireinio ceisiadau i’r prifysgolion gorau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau academaidd, gan ddefnyddio Brexit i ysgogi trafodaeth.

Yn Abertawe, roedd 310 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 79 o rieni, gofalwyr ac athrawon wedi mynd i lansiad y bumed flwyddyn o raglen HE+ Caergrawnt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau pwnc penodol i’r myfyrwyr a chyfle i gael eu cyflwyno i’r staff consortiwm a fydd yn eu ‘hymestyn’ trwy ddosbarthiadau uwch-gwricwlaidd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o’r rhaglen HE+ ac rydyn ni’n ddiolchgar am gymorth parhaus Prifysgol Caergrawnt. Heddiw, rydyn ni wedi gweld dros 300 o bobl ifanc, pob un gyda graddau TGAU cryf iawn, yn gobeithio cael eu hysbrydoli. Roedd heno yn noson wych arall – llawer o gyffro; llawer o bobl ifanc, awyddus yn meddwl am y dyfodol. Dyma beth yw addysg.”

Dywedodd Dr Padley: “Mae wedi bod yn bleser go iawn i dreulio wythnos yng Nghymru, a chwrdd â chynifer o bobl ysbrydoledig – 875 o fyfyrwyr ac 80 o athrawon. Dwi’n ddiolchgar i gydweithwyr mewn ysgolion, colegau, a Rhwydwaith Seren sydd wedi helpu i drefnu’r 11 o ddigwyddiadau dwi wedi ymwneud â nhw. Heb eu gwaith penigamp, allen ni ddim fod wedi gobeithio ennyn diddordeb pobl ifanc mor effeithlon ac effeithiol. 

“Unwaith eto, mae’r wythnos hon wedi dangos i mi fod y lefel o ragoriaeth academaidd yng Nghymru yn eithriadol o uchel, a bod llawer o fyfyrwyr y wlad, yn gwbl haeddiannol, yn anelu at addysg uwch sy’n flaenllaw’n fyd-eang, ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg. 

“Dyma’n union y math o fyfyrwyr y mae Caergrawnt a phrifysgolion tebyg yn chwilio amdanyn nhw. Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n gwneud cais, rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw, a byddwn ni’n parhau i weithio gydag athrawon a rhieni ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc ddisgleiriaf y wlad i anelu’n uchel”.

Nodiadau

Mae gan Dr Jonathan Padley gysylltiadau cryf â De Cymru. Yn y 1990au, astudiodd yn Ysgol Esgob Gôr yn Abertawe. Yn gynharach yn ei yrfa, darlithiodd yng Ngholeg Gorseinon, ac mae hefyd wedi gweithio yng Ngholeg Sir Gâr. Yn ogystal â’i rôl yng Nghaergrawnt, mae Dr Padley yn Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe a rhwng 2013 a 2015, cafodd ei secondio’n rhan-amser i’r Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, gan weithio ar brosiect Llysgennad Rhydgrawnt Cymru a gweithredu wedyn ar argymhelliad ei bolisi allweddol, Rhwydwaith Seren. Dr Padley yw’r Swyddog Ehangu Cyfranogiad yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt – mae’n ymweld ag ysgolion yn Ne Cymru yn rheolaidd ac yn croesawu myfyrwyr i Gaergrawnt. Bydd yn dychwelyd i Gymru ym mis Ionawr, i gwrdd â myfyrwyr newydd Blwyddyn 12 sy’n cymryd rhan yn rhaglen Seren eleni.

Yn fuan, bydd rhaglen HE+ (myheplus.com) Prifysgol Caergrawnt yn cofrestru ei 15,000fed gyfranogwr, ffrwyth chwe mlynedd o waith gydag ysgolion gwladol a cholegau chweched dosbarth ar draws y DU. Sefydlwyd yn 2010, mae HE+ yn annog ac yn paratoi myfyrwyr sy’n gwneud yn eithriadol o dda’n academaidd o ysgolion gwladol i wneud ceisiadau cystadleuol i’r prifysgolion gorau, gan gynnwys Caergrawnt. Mae’r rhaglen yn gweld y Brifysgol a’i Cholegau yn gweithio gyda grwpiau o ysgolion gwladol a cholegau mewn pymtheg rhanbarth i ennyn diddordeb eu myfyrwyr gorau mewn rhaglen gynaledig dros flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymestyn academaidd, dosbarthiadau meistr pynciol, sesiynau gwybodaeth ac arweiniad, ac ymweliadau â’r Brifysgol.

DIWEDD

Lluniau: A Frame Photography
Datganiad i’r wasg: Prifysgol Caergrawnt

Tags: