Coleg yn dathlu Wythnos Amrywiaeth 2016


Updated 20/10/2016

Mae staff a myfyrwyr ar draws Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu Wythnos Amrywiaeth gyda’r unfed Ffair Amrywiaeth ar ddeg a gynhelir bob blwyddyn a chyfres o weithdai i godi ymwybyddiaeth.

Ymhlith yr adloniant eleni roedd drymio Affricanaidd, crefftau ymladd Brasilaidd, lliwio dwylo â henna ac arddangosfeydd dawns Bollywood, stryd a Tsieineaidd. Darparwyd cerddoriaeth fyw gan fyfyrwyr Llwyn y Bryn a Gorseinon*.

“Mae Wythnos Amrywiaeth – ac yn enwedig y Ffair Amrywiaeth – yn gyfle i bawb ddathlu cyfoeth diwylliannol ein cymunedau,” dywedodd yr Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Jane John. “Gyda chymorth a chefnogaeth ein sefydliadau partner, gallwn ni gael llawer o hwyl yn ogystal â hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r materion pwysig.”

Fel rhan o Wythnos Amrywiaeth, roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdai Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Roedd myfyrwyr Gosodiadau Trydanol, Chwaraeon, Sgiliau Byw’n Annibynnol, Plymwaith a Pheirianneg wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda’r nod o fynd i’r afael â materion fel stereoteipio, bwlio a hiliaeth.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yw elusen addysgol wrth-hiliaeth y DU. Sefydlwyd yn 1996, mae’n cynnal ‘pythefnos o weithredu’ yng Nghymru bob mis Hydref, gyda gweithdai sy’n ceisio addysgu a grymuso pobl ifanc.

DIWEDD

*Ymhlith y perfformiadau gan fyfyrwyr eleni roedd:

  • Cerddoriaeth fyw gan ein myfyrwyr Diploma Estynedig Perfformiad Cerddoriaeth ar gampws Llwyn y Bryn: Jack Williams; Phillip Stewart; Samara Phillips; Tamara Ochana; Jack Clements; Anna Dovak; Jason Duffy; Morgan Giles; Ashlee Greaves-Davies; Shona Hammond; Matias Kajander; Chloe Laracombe; Jack Lee; Shannon Mullin
  • Sally Robinson (gitâr a llais)
  • Cody Evans
  • Rebekah
  • Tally Bryant a Jazmine Whalley (dawns)
  • Fraya Jones, Ethan Maxwell, Bethan Walters (llais ac iwcalili)
  • Ryan Gormley (dawns)
  • Josh Pozzi (gitâr a llais)
  • Daisy White (gitâr a llais)
  • Liam Quiros (llais ac iwcalili)
  • Aran Henley (llais)
  • Oat Jenner (monolog dramatig)
  • Stefania Smith (gitâr a llais)

*Diolch yn fawr iawn hefyd i’n stondinwyr a’n partneriaid yn y gymuned gan gynnwys:

  • Gbubemi Amas
  • Capoeira
  • Arnold Matsena
  • Grŵp Dawns Sarita Sood                             
  • Canolfan Gymunedol Tsieineaidd
  • Arnold Matsena
  • Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
  • Canolfan Gymunedol Affricanaidd
  • Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
  • Prosiect Cymunedol Addysg Cenia
Tags: