Hufen iâ + pitsa = elw


Updated 06/12/2016

Mae disgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Gellifedw sy’n dilyn Rhaglen Sbardun y coleg wedi gweithio mewn partneriaeth â Dominos i redeg digwyddiad llwyddiannus ar gampws Gorseinon – gan werthu hufen iâ Joe’s fel rhan o’u cymhwyster Menter.

“Wnes i wir fwynhau creu cynllun busnes a gweithio allan faint o elw sy’n gallu cael ei wneud,” dywedodd y disgybl Jake Todd, a weithredodd fel rheolwr y prosiect. “Dwi eisoes yn cydnabod y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael i mi er mwyn symud ymlaen ymhellach yn y coleg.”

Roedd Mr Martinelli o Ysgol Gyfun Gellifedw yn hynod falch o ganlyniad y digwyddiad. Ychwanegodd: “Roedd fy ngrŵp ysgol i wedi addasu i ddelio â myfyrwyr coleg ac roedden nhw wedi magu hyder drwy gydol y dydd ac roedd hynny wedi creu argraff arna i. Roedden nhw wedi dysgu amrywiaeth eang o sgiliau cyflogadwyedd ac maen nhw bellach yn edrych ymlaen at gynllunio digwyddiad arall yn y Flwyddyn Newydd.”

“Roedd hyn yn gyfle i fyfyrwyr Gellifedw gael blas ar y cwrs Menter rydym yn ei gynnig,” dywedodd y darlithydd Lucy Turtle. “Mae rheolwr Dominos yng Ngorseinon yn gyn-fyfyriwr a gefnogodd ein digwyddiad trwy gynnig talebau am ddim bob tro prynodd rhywun hufen iâ. Roedd Dominos hefyd yn recriwtio ar gyfer gweithwyr rhan-amser ac felly roedd yn gyfle i’n myfyrwyr ni sgwrsio â’r tîm a llenwi ceisiadau am swyddi.”

Mae’r Rhaglen Sbardun yn fenter newydd a ddatblygwyd gan y coleg ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 ar draws Abertawe sy’n cofrestru yn y coleg i gwblhau BTEC mewn Astudiaethau Galwedigaethol. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle iddyn nhw astudio amrywiaeth o wahanol lwybrau a darganfod maes diddordeb y gallen nhw ei ddilyn ar ôl gadael yr ysgol. Ar hyn o bryd mae chwe ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen ac mae pob grŵp yn dilyn cwrs pwrpasol wedi’i deilwra i’w hanghenion e.e. gwyddor fforensig, plymwaith, gwallt a harddwch, gwneud printiau, recordio sain, menter, arlwyo a pheirianneg.

Tags: