Rhagor o fyfyrwyr CGA yn mynd i'r prifysgolion gorau


Updated 07/09/2017

Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn gwyrdroi'r duedd a nodir mewn dau adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Yn y cyntaf ohonynt, mae'r ffigurau a ryddhawyd gan y corff derbyn UCAS yn dangos bod llai na 25% o bobl ifanc 18 oed yn chwarter etholaethau Cymru yn mynd i'r brifysgol – gyda ffigurau o dan 25% ar gyfer Gorllewin Abertawe a Dwyrain Abertawe, ffigur ychydig bach yn uwch ar gyfer Gŵyr, a'r ffigur uchaf yng Nghaerdydd ar 47%.

Er hynny, yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, lle mae nifer fawr debyg o fyfyrwyr yn dod o ardaloedd ar draws Gorllewin Abertawe, Dwyrain Abertawe a Gŵyr, o garfan o lai na 2,000 bydd dros 1,000 o fyfyrwyr (h.y. dros 50%) yn mynd ymlaen i'r brifysgol eleni.

Yn ôl ail adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y BBC, mae nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Russell Group – sef y 24 prifysgol gorau yn y DU - wedi gostwng gan 10% yn y tair blynedd diwethaf.

Ond, unwaith eto, mae'r ffigurau ar gyfer myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sydd wedi cael lle i astudio yn y prifysgolion gorau hyn yn dangos mai'r gwrthwyneb sy'n wir - gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu o 136 yn 2014 i 175 yn 2017. Mae myfyrwyr yr haf hwn yn symud ymlaen i ddim llai nag 19 o'r 24 prifysgol gorau hyn, gan gynnwys pedwar sy'n mynd i Gaergrawnt a dau i Rydychen.

“Rydym yn falch iawn ein bod yn nofio yn erbyn y don yn yr achosion arbennig hyn gyda nifer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol ac, o'r myfyrwyr hyn, mae bron un ym mhob pump wedi cael lle yn y prifysgolion gorau," meddai'r Pennaeth Mark Jones.  "Dawn a gwaith caled ein myfyrwyr sydd i gyfrif am hyn, ynghyd ag ymroddiad ac ymrwymiad darlithwyr a staff cymorth ar draws y Coleg."

Mae’r ffigurau canlynol yn dangos nifer y myfyrwyr a gafodd eu derbyn eleni yn ôl prifysgol:

Prifysgol

2017

Prifysgol Birmingham

8

Prifysgol Bryste

22

Prifysgol Caergrawnt

4

Prifysgol Caerdydd

79

Prifysgol Caeredin

1

Prifysgol Caerwysg

11

Coleg Imperial Llundain

2

Coleg y Brenin Llundain

7

Prifysgol Lerpwl

4

Prifysgol Manceinion

2

Prifysgol Newcastle

2

Prifysgol Nottingham

4

Prifysgol Rhydychen

2

Prifysgol y Frenhines Mary Llundain

4

Prifysgol Sheffield

3

Prifysgol Southampton

6

Coleg Prifysgol Llundain

5

Prifysgol Warwig

7

Prifysgol Efrog

2

Tags: