Rheolwr Menter Sue Poole yn cystadlu am ddwy wobr


Updated 26/09/2017

Mae Sue Poole, Rheolwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe a Phrif Swyddog Gweithredol / Cyfarwyddwr y Ganolfan Addysg Entrepreneuraidd (C4EE) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nid yn unig un, ond dwy wobr, dros yr wythnosau nesaf.

Mae Sue, a sefydlodd y ganolfan C4EE arobryn yn 2014, wedi cael ei henwebu yn y categori ‘Entrepreneur #GoDo y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Great British Entrepreneur Natwest 2017 fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 4 Hydref.

Dim ond dau ddiwrnod wedyn, yng Ngwesty’r Marriott yn Abertawe, bydd Sue yn cael gwybod a yw hi wedi ennill y wobr ‘Mentor y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Menywod mewn Busnes 2017 – teitl a enillodd hi yn 2012.

Dechreuodd C4EE ar ôl i Sue, oedd wedi addysgu sgiliau menter ar draws y sector addysg bellach am dros 10 mlynedd, deimlo bod angen ymgysylltu â phlant iau i blannu’r meddylfryd mentrus hollbwysig ‘na.

“Fy ngweledigaeth i oedd, ac yw, datblygu cenhedlaeth o bobl ifanc sy’n gallu cysylltu’n hyderus â busnesau a chymunedau, ac a fydd yn creu dyfodol mwy llewyrchus a buddiol iddyn nhw eu hunain ac eraill trwy eu sgiliau entrepreneuraidd,” dywedodd Sue.

Mae’r enwebiadau wedi dod ar adeg arbennig o gyffrous i Sue a’r tîm C4EE wrth iddynt baratoi i ehangu eu rhaglen Bee Enterprising ‘Bumbles of Honeywood’ ar draws ysgolion cynradd yng Nghymru ac i blant mor ifanc â phump oed.

“Dyn ni wedi datblygu cyfres o chwe llyfr addysgol sy’n archwilio trafferthion amgylcheddol y boblogaeth wenyn,” dywedodd Sue. “Lleolir pob stori yng nghymuned Honeywood ac yn canolbwyntio ar Deulu’r Bumbles wrth iddyn nhw oresgyn gwahanol broblemau gan ddefnyddio eu sgiliau menter.”

“Mae’r llyfrau’n cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau entrepreneuriadd hanfodol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn bywyd – sgiliau y mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw atynt fel sgiliau hollbwysig i sicrhau dyfodol llwyddiannus i’n pobl ifanc.” 

DIWEDD

Nodiadau:

Mae C4EE yn cynnig amrywiaeth o weithdai menter pwrpasol a sesiynau ystafell ddosbarth ynghyd â sesiynau hyfforddi athrawon i gefnogi staff addysgu.

Mae storïau’r Bumbles of Honeywood yn archwilio meddylfryd menter ac yn diwallu canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu. Maen nhw’n cynorthwyo dysgwyr ymhellach i ehangu eu gallu i ddatblygu a chyflwyno gwybodaeth wrth integreiddio agweddau ar siarad, gwrando, cydweithredu a thrafod.

Gallwch ymweld â’r Bumbles of Honeywood yn www.thebumblesofhoneywood.co.uk

Tags: