Y Coleg yn dathlu graddedigion AU


Updated 15/11/2017

Bu dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe mewn digwyddiad graddio arbennig yn ddiweddar a gynhaliwyd yn y Neuadd Fawr ar Gampws Bae Prifysgol Abertawe.

Roedd y myfyrwyr yn dathlu llwyddiant mewn pynciau mor amrywiol â chyfrifeg, peirianneg, arweinyddiaeth a rheolaeth, therapïau tylino chwaraeon, rheolaeth gwallt a harddwch, gofal plant, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg ac yn arbennig addysg bellach ac addysg uwch o ran darparu'r sgiliau y mae eu hangen i gynnal economi gryf,"  dywedodd y Pennaeth Mark Jones.  "Rwy'n falch iawn bod Coleg Gŵyr Abertawe, trwy gydweithio â'n partneriaid AU ac eraill, yn gallu cefnogi'r agenda hwn ac yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth AU trwy bartneriaethau cadarn."

"Fe wnes i raddio gyda chydweithwyr gwaith ac roedd yn braf i ni gael noson i ffwrdd o'r swyddfa gyda'n gilydd, i ddathlu ein gwaith caled a hefyd cwrdd â theulu a ffrindiau," dywedodd un myfyriwr oedd yn bresennol yn y digwydd.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau AU mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Lluniau: Peter Price Media

Tags: