Cyfleoedd cysylltiedig â gwaith i fyfyrwyr TG


Updated 07/12/2017

Cyn bo hir bydd cyfle gan fyfyrwyr TG yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i gyfuno eu hastudiaethau academaidd â hyfforddiant realistig yn y gweithle, diolch i bartneriaeth newydd â'r rhaglen gyflogadwyedd fyd-eang Galaxias Tech.

Mae'r Rhaglen TG Uwch yn agored i fyfyrwyr TGCh Lefel 3 nad ydynt yn bwriadu symud ymlaen i'r brifysgol ond yn hytrach yn canolbwyntio ar fireinio eu sgiliau mewn lleoliad ymarferol.

Bydd y dosbarthiadau yn rhedeg ar gampws Tycoch/Hill House y Coleg i gychwyn cyn trosglwyddo i IndyCube yn Stryd y Gwynt.

"Bydd y rhaglen yn cynnig modd i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau cysylltiedig â gwaith hollbwysig hynny oherwydd cânt eu trin fel gweithwyr trwy gydol y cwrs hwn," meddai'r Arweinydd Cwricwlwm  Bruce Fellowes. “Mae'r rhaglen TG Uwch yn pontio'r bwlch rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol ac mae'n falch gennym gydweithio â Galaxias Tech i ddarparu'r hyfforddiant canol ddinas hwn.”

Mae un deg tri o fyfyrwyr ail flwyddyn yn dilyn y rhaglen ar hyn o bryd ac eisoes wedi dechrau gweithio ar eu prosiectau cyntaf.

“Mae rhai cyfleoedd euraidd o'u blaenau," ychwanega Bruce. “Bydd y myfyrwyr yn gwneud cyfanswm o 25 diwrnod o brofiadau cysylltiedig â gwaith gyda Galaxias Tech gan gynnwys wythnos gyfan ym mis Rhagfyr. Mae prentisiaethau yn bosibl hefyd yn y dyfodol - ac mae'r cyfan yn newyddion gwych i'r economi leol ac iddyn nhw'n bersonol wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gyrfa yn y diwydiant TG."

Mae Galaxias Tech yn ymateb i ofynion cyflogwyr, diwydiant ac addysgwyr ac wedi ymrwymo i baratoi oedolion ifanc ar gyfer byd gwaith. 

https://www.gcs.ac.uk/cy/computing-and-technology#!pnl_all

Tags:
IT
ICT