Anerchiad prifysgolion blaenllaw yn denu 200 o fyfyrwyr i'r Coleg


Updated 06/02/2018

Yn ddiweddar, roedd bron 200 o fyfyrwyr Safon Uwch wedi ymgynnull ar gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe i gael cyngor arbenigol ar ymgeisio i’r prifysgolion gorau.

Roedd yr anerchiad, a draddodwyd gan Dr Jonathan Padley, Cymrawd a Thiwtor Derbyn yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, wedi canolbwyntio ar yr hyn y gall Caergrawnt, Rhydychen a phrifysgolion tebyg ei gynnig a sut i ddechrau paratoi cais cryf.

Yn ymuno â myfyrwyr y Coleg oedd disgyblion o Ysgol Esgob Gôr, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Ysgol Gyfun Treforys, Ysgol Gyfun Olchfa ac Ysgol Gyfun Gŵyr.                          

“Mae bob amser yn wych dod yn ôl i Abertawe yn enwedig i siarad â chynifer o bobl ifanc yn un digwyddiad,” dywedodd Jonathan. “Ces i gyfle i roi cyngor, annog a chymryd cwestiynau, ac esbonio’r broses eang i’w dilyn wrth wneud cais i brifysgolion lle mae’r gystadleuaeth am le yn aml yn ddwys.”

Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm AU+ Abertawe, lle rydym yn gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn Ninas a Sir Abertawe.

Mae consortiwm AU+ Abertawe yn cael ei gefnogi gan Raglen Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, sef cyfres o hybiau rhanbarthol sy'n ceisio helpu myfyrwyr mwyaf galluog Blwyddyn 12 Cymru i gyflawni eu potensial academaidd.

DIWEDD

Nodiadau:

Sefydlwyd yn 2010, mae rhaglen AU+ Prifysgol Caergrawnt yn annog ac yn paratoi myfyrwyr sy’n gwneud yn eithriadol o dda’n academaidd o ysgolion gwladol i wneud ceisiadau cystadleuol i’r prifysgolion gorau. Mae’r rhaglen yn gweld y Brifysgol a’i Cholegau yn gweithio gyda grwpiau o ysgolion gwladol a cholegau mewn pymtheg rhanbarth i ennyn diddordeb eu myfyrwyr gorau mewn rhaglen gynaledig dros flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymestyn academaidd, dosbarthiadau meistr pynciol, sesiynau gwybodaeth ac arweiniad, ac ymweliadau â’r Brifysgol.

Mae gan Dr Jonathan Padley gysylltiadau cryf â De Cymru. Yn y 1990au, astudiodd yn Ysgol Esgob Gôr yn Abertawe. Yn gynharach yn ei yrfa, darlithiodd yng Ngholeg Gorseinon, ac mae hefyd wedi gweithio yng Ngholeg Sir Gâr. Yn ogystal â’i rôl yng Nghaergrawnt, bu Dr Padley yn Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe a rhwng 2013 a 2015, cafodd ei secondio i’r Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, gan weithio ar brosiect Llysgennad Rhydgrawnt Cymru a gweithredu wedyn ar argymhelliad ei bolisi allweddol, Rhwydwaith Seren. Yn rhinwedd ei swydd fel Tiwtor Derbyn yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, mae Dr Padley yn ymweld ag ysgolion a cholegau’n rheolaidd yn Ne Cymru ac yn croesawu myfyrwyr i Gaergrawnt.

Tags: