Coleg yn cynnal Dydd Miwsig Cymru


Updated 14/02/2018

Mi oedd campws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe dan ei sang yr wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth gyfoes cyfrwng Cymraeg.  

Bu prosiect Gorwelion BBC Cymru yn ymweld â’r Coleg gyda llu o artistiaid newydd gyda Alasdair Gunneberg, Roughion, Eadyth, Hana2K a Marged yn chwarae ar y llwyfan acwstig yn yr ystafell gyffredin ar lawr gwaelod y campws.  Yn ogystal,  bu un o DJs y Coleg, Connor Thomas, yn chwarae cerddoriaeth ddawns y tu allan i dderbynfa’r Coleg gyda chymorth ‘boombox’ mawr. 

Bu perfformwyr o’r Coleg Euan Williams, Jacob Howells, Windshake, The Furns a Vanilla yn chwarae ar lwyfan yr ail lawr, gyda’r uchafbwynt ‘The Goldie Lookin’ Chain’ yn cloi diwrnod llwyddiannus iawn.  Trefnwyd gweithdy i fyfyrwyr cerddoriaeth gan Bethan Elfyn a Simon Parton hefyd.

Nod y diwrnod oedd codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r amrywiaeth mewn cerddoriaeth  Gymraeg.

“Mae’n wych cael diwrnod fel hyn sy’n dathlu cerddoriaeth gyfoes yn yr iaith Gymraeg,” meddai Anna Davies ein Hyrwyddwr Dwyieithrwydd. “Mae’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr wrando a chael eu cyflwyno i gerddoriaeth na fyddent efallai wedi dod ar ei thraws o’r blaen.  Profodd i fod yn ddiwrnod llwyddiannus, ac mi oedd yn bleser gweld myfyrwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn mwynhau gwrando a chael eu symud gan gerddoriaeth Gymraeg ei hiaith.  Y gobaith yw bydd diwrnod fel hyn yn sbardun i ddatblygiadau Cymraeg eraill yn y Coleg.”

Tags: