Llwyddiant i ddwy fyfyrwraig harddwch


Updated 06/04/2018

Mae dwy fyfyrwarig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobrau yn un o gystadlaethau nodedig Salon Cymru.

Daeth Amanda Rees yn gyntaf yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, wedi’i dilyn yn agos gan Katie Jennings a ddaeth yn drydydd. Ar hyn o bryd, mae’r ddwy fyfyrwraig yn dilyn cwrs Lefel 2 Colur Cosmetig yng Nghanolfan Broadway y Coleg.

Ar gyfer y gystadleuaeth, bu’n rhaid iddynt ddangos gwahanol dechnegau celfyddyd coluro megis aroleuo a cherflunio.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad – llongyfrachiadau mawr i Amanda a Katie ond hefyd i’n holl fyfyrwyr gwych a weithiodd mor galed cyn y gystadleuaeth,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu Bernie Wilkes. “Rydych chi i gyd wedi gwneud Coleg Gŵyr Abertawe mor falch!”

Tags: