Diwrnod VQ 2018 – myfyrwyr yn dathlu llwyddiant galwedigaethol


Updated 03/05/2018

Wrth i Goleg Gŵyr Abertawe ddathlu Diwrnod VQ (Cymwysterau Galwedigaethol), bu rhai o’n myfyrwyr presennol yn dweud pam gwnaethant ddewis dilyn y llwybr galwedigaethol trwy’r Coleg.

Ar hyn o bryd mae Chloe Houlton yn astudio tuag at Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Sba a’r Corff yng Nghanolfan Broadway, ar ôl cwblhau cwrs Diploma Lefel 2 mewn Technegau Arbenigwr Harddwch.

“Penderfynes i ddilyn cymhwyster galwedigaethol oherwydd mae’n rhoi’r sgiliau perthnasol sydd eu hangen arna i ar gyfer fy swydd nawr ac yn y dyfodol,” dywedodd Chloe. “Byddwn i’n disgrifio fy nghymhwyster fel un sy’n wahanol mewn ffordd gadarnhaol, yn hwyl ac yn wych ar gyfer datblygu sgiliau. Mae anabledd gyda fi sy’n effeithio ar y ffordd dwi’n cerdded ond dyw’r cwrs hwn ddim wedi fy nghyfyngu mewn unrhyw ffordd – a dweud y gwir mae wedi cynnig mwy o gyfleoedd i mi!”

Mae Amy Strelley, sy’n dilyn cymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yng Ngorseinon, yn cytuno.

“Mae fy nghwrs galwedigaethol wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wireddu fy uchelgais, sef gyrfa mewn addysg ysgol gynradd,” dywedodd. “Mae cydbwysedd da o brofiadau academaidd ac ymarferol drwy’r cwrs a dwi wedi cael cyfle i fynd ar leoliad mewn ysgol gynradd leol.”

Ni fu cymwysterau galwedigaethol erioed mor bwysig i’r economi a’r unigolyn oherwydd maen nhw’n creu’r gweithwyr talentog a hyfforddedig y mae busnesau yn gweiddi amdanynt ac maen nhw’n sicrhau bod pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn addysg a’r gweithle.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig tua 40 o lwybrau galwedigaethol i ddysgwyr amser llawn gan gynnwys cyrsiau mor amrywiol ag arlwyo, technoleg ddigidol, harddwch, chwaraeon a theithio a thwristiaeth.

I Mariusz Gawarecki, sy’n astudio cwrs Diploma Lefel 3 mewn Plymwaith a Gwresogi / Prentisiaeth ar hyn o bryd, yr elfen ymarferol wnaeth apelio – cyn hynny, roedd wedi cwblhau Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg cyn hyfforddi am yrfa ym maes plymwaith.

Mae Mariusz wedi cynrychioli’r Coleg mewn amrywiol gystadlaethau ar draws y wlad, gan gynnwys y gystadleuaeth nodedig Prentis Gwresogi’r Flwyddyn y DU HIP lle daeth yn ail. Yn 2015, cafodd ei enwi yn Fyfyriwr Peirianneg y Flwyddyn.

Myfyriwr arall sy’n cynrychioli’r Coleg ar y llwyfan genedlaethol yw Collette Gorvett sy’n dilyn cwrs Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch yn Nhycoch.

Mae Collette wedi cael lle yn nhîm Carfan WorldSkills y DU, a allai olygu ei bod yn cynrychioli ei gwlad yn Rownd Derfynol WorldSkills y Byd yn Rwsia yn 2019. Yn ogystal, cafodd ei ‘Chymeradwyo’n Fawr’ yn ddiweddar yng nghystadleuaeth y Gwasanaethau Bwyty yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills yn NEC Birmingham.

“Mae fy nghymhwyster galwedigaethol wedi cynnig cyfleoedd i mi gymryd rhan mewn cystadlaethau sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r diwydiant,” dywedodd Collette, sy’n gobeithio cael swydd yng ngwesty pum seren Gleneagles yn yr Alban pan fydd yn gorffen yn y Coleg. “Dwi i wedi cael fy nghefnogi gan y staff yn y Coleg, maen nhw bob amser yn barod i helpu”

Rhywun arall sy’n fodlon ar ei benderfyni ad i ddilyn y llwybr galwedigaethol yw Matthew Hammond, sy’n dilyn cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

“Penderfynes i ddilyn cymhwyster galwedigaethol oherwydd roedd ‘na fwlch mawr ar ôl fy arholiadau TGAU,” dywedodd. “Mae’n gwrs ymarferol iawn ac mae’n hawdd i’w ddilyn, ac mae hyn yn gweddu i’m ffordd o ddysgu. Mae'n fy helpu i baratoi ar gyfer gyrfa mewn meddygaeth.” 

“Mae cwblhau cymhwyster galwedigaethol wedi fy mharatoi i yn dda ar gyfer y Brifysgol,” ychwanegodd Callum O’Connor, myfyriwr Diploma Estynedig Lefel 3 TGCh sydd yn barod i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. “Mae’n cynrychioli fy sgiliau yn gywir oherwydd mae’n seiliedig ar aseiniadau. Mae hefyd wedi cynnig cyfleoedd gwych i mi, fel teithio i Denmarc yn ddiweddar am dair wythnos.”

Gall cymwysterau galwedigaethol helpu unigolion o bob oedran i gael mantais - boed hynny yn eu gyrfa nawr neu yn y dyfodol neu fel llwyfan ar gyfer addysg bellach ac uwch.  Mae Diwrnod VQ yn ceisio cydnabod a dathlu gwerth cyrhaeddiad galwedigaethol i'r unigolyn a'r gymuned ehangach oherwydd dim ond pobl sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sydd â'r sgiliau priodol all hybu economi'r DU

Mae Diwrnod VQ wedi’i drefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Cymwysterau Cymru a ColegauCymru.

DIWEDD

Tags: