Byddwch yn greadigol ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion 2018!


Updated 15/05/2018

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o ddathlu Wythnos Addysg Oedolion eleni gyda chyfres o weithdai creadigol sydd ar gael ar Gampws Llwyn y Bryn.

Mae’r gweithdai yn amrywio o luniadu a ffotograffiaeth, i sgrin-brintio a darlunio ffasiwn. Maen nhw’n addas i ddechreuwyr neu i’r rhai sydd heb lawer o brofiad o gelf a dylunio.

Mae’r holl weithdai yn rhad ac am ddim ac ar agor i’r rhai sy’n 18 oed neu hŷn. Byddan nhw’n cael eu cynnal ar Gampws Llwyn y Bryn, 77 Heol Walter, Uplands, SA1 4QA.

 

Gweithdy 1: Bywluniadu

Dydd Mawrth 19 Mehefin, 10am-12.30pm
Campws Llwyn y Bryn

Mae’r gweithdy hwn, dan arweiniad Mary Passmore, yn archwilio lluniadu a thechnegau gwneud marciau i ddatblygu’ch sgiliau lluniadu arsylwadol wrth ystyried y ffurf ddynol.

Cadwch eich lle trwy e-bostio Julia.Johnson@gcs.ac.uk

Gweithdy 2: Ffotograffiaeth Stiwdio

Dydd Mawrth 19 Mehefin, 1pm-3pm
Campws Llwyn y Bryn

Mae’r gweithdy hwn, dan arweiniad Natalie Hemingway, yn archwilio’r defnydd o oleuo cywair isel a chysgod i bwysleisio’r ffurf graffig.

Cadwch eich lle trwy e-bostio Julia.Johnson@gcs.ac.uk

Gweithdy 3: Sgrin-brintio ar gyfer Patrymau Arwyneb

Dydd Mercher 20 Mehefin, 9.30am-12.30pm
Campws Llwyn y Bryn

Yn y gweithdy hwn, dan arweiniad Coral Williams ac Emma Jenkins, byddwch yn arbrofi defnyddio stensiliau wedi’u torri ac emwlsiwn sy’n sensitif i olau. Byddwn ni hefyd yn archwilio amrywiaeth o orffeniadau printio gan gynnwys ffloc a ffoil.

Cadwch eich lle trwy e-bostio Julia.Johnson@gcs.ac.uk

Gweithdy 4: Darlunio Ffasiwn Gyfoes

Dydd Iau 21 Mehefin, 10am-12.30pm
Campws Llwyn y Bryn

Yn y gweithdy hwn, dan arweiniad Susanne David, byddwch chi’n archwilio amrywiaeth o gyfryngau cymysg i gynhyrchu darluniad ffasiwn gyfoes wedi’i ysbrydoli gan yr olwg gyfredol ar y brigdrawst. Bydd y darn gorffenedig wedyn yn cael ei drosglwyddo ar fag cario i fynd ag ef gyda chi.

Cadwch eich lle trwy e-bostio Julia.Johnson@gcs.ac.uk

Gweithdy 5: Tecstilau Arbrofol

Dydd Gwener 22 Mehefin, 10am-1pm
Campws Llwyn y Bryn

Bydd y gweithdy hwn, dan arweiniad Rachel Barrett, yn eich annog i arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau tecstilau cyfryngau amrywiol i gynhyrchu canlyniad unigryw.

Cadwch eich lle trwy e-bostio Julia.Johnson@gcs.ac.uk

Wythnos Addysg Oedolion yw’r ŵyl ddysgu flynyddol fwyaf yn y DU, sydd erbyn hyn yn cael ei dathlu mewn dros 55 o wledydd ledled y byd. Bob blwyddyn, yng Nghymru yn unig, mae dros 10 mil o oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig, ac eleni mae’n rhedeg rhwng 18 a 24 Mehefin. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion ewch i > https://bit.ly/2inR2Ms

 

DIWEDD.

 

Tags:
art