Canlyniadau uchel i Goleg Gŵyr Abertawe


Updated 24/08/2018

Ar ôl set anhygoel o ganlyniadau Safon Uwch, mae dros 1,000 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn barod i symud ymlaen i’r brifysgol ym mis Medi.

Mae bron 200 o’r myfyrwyr hyn yn mynd i rai o’r prifysgolion gorau yn y DU – gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, Caeredin, Coleg Imperial Llundain, Bryste, Caerwysg ac Ysgol Economeg Llundain.

Y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe oedd 98% gyda 1,827 o geisiadau arholiad ar wahân. O’r graddau pasio hyn, roedd 1,518 yn raddau uwch
A*- C (bron 10% yn uwch na chyfartaledd Cymru), 1,066 yn raddau A*- B a 516 yn raddau
A*- A. Mae’r canrannau cryf hyn yn uwch na’r canlyniadau ardderchog a gafwyd yn 2017.

Y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG oedd 93% gyda 1,958 o’r graddau pasio hyn yn raddau A-C a 1,364 yn raddau A-B . Eto, mae’r canrannau cryf hyn yn uwch na chanlyniadau 2017. Roedd 2,853 o geisiadau arholiad ar wahân ar gyfer Safon UG.

Yn achos y canlyniadau galwedigaethol, y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer BTEC Lefel 3 oedd  97% gyda 229 o fyfyrwyr yn ennill graddau Rhagoriaeth.

Felly beth yw cyfrinach y Coleg o ran ei lwyddiant parhaus? Dyma’r Pennaeth Mark Jones yn rhannu ei farn.

Dewis
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr. Rydym yn sicrhau y gall pob myfyriwr astudio’r pynciau maen nhw am eu hastudio drwy ddarparu cyngor a chyfarwyddyd wedi’u teilwra yn ystod eu cyfnod yn y Coleg. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau bod amserlenni myfyrwyr yn cael eu datblygu gan ystyried eu dewis cyrsiau.

Dilyniant
Mae gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob un o’n myfyrwyr. I ni, nid yw’n ymwneud yn unig â phasio arholiadau, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau’r graddau gorau i gael y cyfleoedd gorau i symud ymlaen.

Ansawdd y staff addysgu
Rydym yn ymfalchïo yn ein darlithwyr profiadol, y mae llawer ohonynt yn arbenigwyr yn eu maes pwnc ac yn gwybod popeth am eu cwricwlwm.

Cymorth myfyrwyr
Mae pob un o’n myfyrwyr yn cael cymorth academaidd a bugeiliol. Mae ein hymgynghorwyr myfyrwyr ar gael i ddarparu cymorth ychwanegol os oes angen h.y. cyllid, tocynnau bws neu faterion personol.

Rydym yn rhoi cymorth heb ei ail i fyfyrwyr ac rydym yn parhau i fuddsoddi’n drwm mewn cyfleusterau ar draws y Coleg i roi’r profiad gorau oll i’n myfyrwyr – gyda datblygiadau diweddar gwerth miliynau o bunnoedd yn Nhycoch a Gorseinon.

Meintiau dosbarthiadau
Ar gyfartaledd mae meintiau dosbarthiadau yn llai na 20*, ac mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan staff tra chymwysedig  gyda chymorth yn cael ei gynnig trwy raglen diwtorial sefydledig. Dyma’r hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni bob blwyddyn ac mae’n gwella drwy’r amser.

*(ein maint dosbarth ar gyfartaledd yw 14)

Rydym yn cofrestru ar hyn o bryd ar gyfer cyrsiau amser llawn.

Tags: