Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel


Updated 26/11/2018

Mae saith myfyriwr Safon Uwch Rhyngwladol wedi gwneud cais i astudio yn naill ai Caergrawnt neu Rydychen ym mis Medi 2019.

Roedd pob un o’r rhain wedi cael o leiaf dair gradd A yn eu harholiadau Safon UG ac maen nhw eisoes wedi cael cynigion gan brifysgolion sy’n enwog ar draws y byd megis Coleg Imperial Llundain, UCL ac Ysgol Economeg Llundain.

Roedd yr holl fyfyrwyr wedi cwblhau eu hasesiadau gallu Rhydgrawnt dros hanner tymor ac nawr maen nhw’n aros i weld a fyddan nhw’n cael cyfweliad.

Dymunwn bob lwc i holl fyfyrwyr y Coleg gyda’u ceisiadau Rhydgrawnt.

Tags: