Hormonau ‘hapus’ wedi eu hesbonio


Updated 29/11/2018

Cafodd staff Coleg Gŵyr Abertawe wahoddiad yn ddiweddar i fynychu seminar ddiddorol ar sut i reoli’r menopos yn y gweithle.

Cafodd y sgwrs awr o hyd ei gynnal gan Nicki Williams yr arbenigwr maeth, awdur a sefydlydd Happy Hormones For Life.

Ar ôl methu â dod o hyd i gymorth meddygol ar faterion ei hun yn ei 40’au cynnar, rhannodd Nicki ei stori wrth i adrodd sut y defnyddiodd ddatrysiadau naturiol er mwyn gwyrdroi’r sefyllfa.

Cafodd y sgwrs ei ffrydio’n fyw ar draws holl gampysau’r Coleg er budd y staff sy’n gweithio mewn adrannau eraill. Bydd y sgwrs hefyd yn cael ei rhoi ar y Porth fel gall y staff ei wylio yn eu hamser hamdden.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe newydd dderbyn gwobr Safon Iechyd Corfforaethol Arian.

“Roeddwn ni’n hynod o ddiolchgar o allu croesawi Nicki i’r Coleg i drafod mater mor ddiddorol,” Dywedodd Sarah King, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol. “Mae lles yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth hollbwysig i dîm yr Adnoddau Dynol, a byddwn yn parhau i ddatblygu gwaith sy’n cael ei wneud ar y mater. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar gyrraedd y Safon aur dros y 12 mis nesaf.

Rhai o'r adborth positif a gafwyd gan staff:

"Diddorol iawn...dwi'n bwriadu darllen rhagor am y pwnc".
"Mwynheuais i'r anerchiad hwn. Roedd yn ddiddorol iawn."
"Roedd yn llawn gwybodaeth a chafodd ei gyflwyno'n dda..."

Tags:
HR