Medalau Aur ac Arian i fyfyrwyr Tycoch


Updated 24/01/2019

Mae myfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio dwy o’r tair prif wobr yn ddiweddar yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Electroneg Ddiwydiannol).

Enillydd y wobr Aur oedd Rhys Watts, gyda Ben Lewis yn ennill gwobr Arian – mae’r ddau fyfyriwr yn astudio cyrsiau Lefel 3 ar Gampws Tycoch.

Daeth Daniel Holmes o Goleg Cambria yn drydydd.

Cafodd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eu cynnal dros ddau ddiwrnod. Roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu cystadleuwyr rhanbarth y De, ac roedd cystadleuwyr rhanbarth y Gogledd wedi ymgasglu yng Ngholeg Cambria.

Roedd pob cystadleuydd wedi wynebu saith awr o heriau dwys – gan gynnwys adeiladu electronig, prawf theori, prototeipio a chanfod namau – a fyddai angen lefelau anhygoel o ganolbwyntio.

“Mae ennill yn y gystadleuaeth hon yn gyflawniad gwych, nid yn unig i Rhys a Ben ond i’r holl dîm addysgu Peirianneg Electronig hefyd,” meddai yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams.

Mae’r llwyddiant diweddaraf hwn yn dod yn fuan ar ôl i’r cydfyfyriwr Jamie Skyrme ennill gwobr Aur yn Rownd Derfynol WorldSkills UK LIVE ym mis Tachwedd 2018.

Tags: