Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio tair gwobr AD


Updated 29/03/2019

Enillodd Coleg Gŵr Abertawe dair gwobr yng Ngwobrau AD Cymru 2018 mewn seremoni tei du ddisglair yng Ngwesty’r Gyfnewidfa, Caerdydd ar ddydd Gwener 22 Mawrth.

Y seremoni wobrwyo – sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr AD ledled Cymru – yw prif ddigwyddiad Rhwydwaith AD Cymru, grŵp arweiniol proffesiynol sy’n rhwydweithio ac yn rhannu barn wedi’i greu a’i redeg gan y cwmni cyfreithiol masnachol a leolir yng Nghaerdydd Darwin Gray and Acorn, arbenigwyr recriwtio arweiniol Cymru. 

Cyrhaeddodd Coleg Gŵyr Abertawe y rownd derfynol mewn saith categori gan gynnwys Cyflogwr a Thîm y Flwyddyn. Daeth y tîm yn gyntaf yn y categori Defnydd Gorau o Gymraeg ac enillodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Sarah King, y Wobr Seren AD chwenychedig a Chyfarwyddwr AD y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dywedodd Sarah: “Dwi mor falch o’r tîm AD ac mae’n anrhydedd llwyr i ennill tair gwobr. Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe ffocws cryf ar les staff fel y dangoswyd pan enillon ni wobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn ddiweddar, ac mae wedi bod yn bleser i ddatblygu a gweithredu strategaethau i gefnogi hyn. Dwi’n edrych ymlaen at barhau i flaenoriaethu’r materion hyn a chyflwyno mentrau newydd dros y flwyddyn nesaf.”

Wrth sôn am lwyddiannau Sarah a’r tîm AD, dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones: “Dwi wrth fy modd bod y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer saith gwobr ac wedi ennill tair. Fel sefydliad, mae ein staff yn rhan hanfodol o’n llwyddiant ac mae’r adran AD yn allweddol o ran cyflawni hyn.

“Dwi’n arbennig o falch o’n Cyfarwyddwr AD Sarah King sydd, yn y cyfnod cymharol fyr mae wedi bod gyda ni, wedi cael effaith fawr nid yn unig ar ei thîm, ond ar draws y Coleg hefyd, ac felly, mae hi’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon yn llwyr am yr ail flwyddyn yn olynol. Hoffwn longyfarch a diolch i bawb dan sylw am yr holl waith sydd wedi arwain at y gydnabyddiaeth hon.”

Tags:
HR