Medalau arian i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe


Updated 22/05/2019

Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr wedi perfformio’n eithriadol o dda ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol AoC yn ddiweddar yn Nottingham.

Yng nghystadleuaeth Tennis Bwrdd y Dynion, enillodd aelodau’r tîm Jarrett Zhang, Jacob Young a Matthew Jones y gyntaf o dair medal arian.

Roedd Freya Fleming a Niamh Silvey yn aelodau o garfan Colegau Cymru a enillodd y fedal Arian yng nghystadleuaeth Hoci’r Merched.

Ac yn nigwyddiad Traws Gwlad y Merched, roedd Laura Dowdle-Hughes yn aelod o dîm Colegau Cymru a enillodd fedal Arian. Mae ennill y tair medal hyn yn llwyddiant ysgubol i gohort Coleg Gŵyr Abertawe.

“Mae’n wych gweld aelodau o Raglen Athletwyr Elit y Coleg yn ennill anrhydedd mewn Pencampwriaeth Brydeinig gystadleuol iawn,” dywedodd y darlithydd Marc O’Kelly.

Tags: