£6.6m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi rhaglen cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe


Updated 10/09/2019

Mae buddsoddiad o £6.6m gan yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sicrhau i ehangu ac ymestyn rhaglen gyflogadwyedd yn Abertawe tan 2021.

Fel rhan o’r rhaglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’, caiff pum prosiect newydd eu darparu gan Goleg Gŵyr Abertawe mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol.

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at bobl sy’n ddi-waith, sydd wedi’u tangyflogi, neu sydd mewn swyddi cyflog isel. Bydd y rhaglen yn darparu ystod o gefnogaeth, megis hyfforddiant, mentora, lleoliadau gwaith, a chyfleoedd i ennill cymwysterau.

Amcan prosiectau ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ yw gwella gobeithion gyrfaol a sgiliau pobl. Y nod yw helpu mwy na 3000 o bobl dros y ddwy flynedd nesaf, gan helpu i leihau tlodi ac anfantais yn ardal Abertawe.

Bydd y cymorth yn canolbwyntio ar fenywod sydd wedi’u tangyflogi, pobl dros 25 oed â lefel isel o ran sgiliau, neu bobl sydd â chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Bydd hefyd yn ffocysu ar bobl ifanc a phobl sydd wedi’u tangyflogi sy’n wynebu anfanteision megis anableddau neu gyfrifoldebau gofal plant.

Caiff cymorth ei roi hefyd i tua 120 o gyflogwyr er mwyn iddynt ddatblygu arferion gwaith mwy hyblyg a chynhwysol.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy’n goruchwylio cyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru:

“Mae prosiectau ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ yn cefnogi’r gwaith o greu gweithlu rhanbarthol llwyddiannus, sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer economi sy’n fwyfwy dibynnol ar wybodaeth.

“Mae Llywodraeth Cymru am wneud Cymru’n lle mwy llewyrchus i fyw a gweithio. Dyma enghraifft arall o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi sefydliadau partner i ddiogelu economïau rhanbarthol at y dyfodol.”  

Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Cyngor Gŵyr Abertawe:

“Mae Cyngor Gŵyr Abertawe yn falch iawn o arwain y rhaglen hon, a fydd yn cyfrannu at un o’n prif flaenoriaethau ac a fydd yn diwallu un o anghenion penodol ein cymuned leol yn Abertawe.”

Tags: