Perfformiad Nadoligaidd yn cloi blwyddyn lwyddiannus i fyfyrwyr


Updated 13/12/2019

Mae myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a’r Celfyddydau Cynhyrchu yn y Theatr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi gorffen blwyddyn lwyddiannus arall gyda pherfformiad Nadoligaidd o Beauty and the Beast Disney.

Dros naw diwrnod, roedd y myfyrwyr wedi perfformio 20 sioe i gynulleidfa o bron 2000 o bobl. Roedd y rhain yn cynnwys tri pherfformiad cyhoeddus (a werthodd allan yn gyfan gwbl) a dydd-berfformiadau arbennig ar gyfer wyth ysgol gynradd leol, dwy ysgol gyfun a pharti Nadolig staff.

Roedd yn arddangosiad gwych o dalent, nid yn unig o ran canu, actio, dyluniad set, sain a goleuo ond hefyd y gwallt a cholur theatraidd a oruchwyliwyd gan fyfyrwyr Canolfan Broadway y Coleg.

Lluniau: Daniel Jones

Tags: