Medalau’r cyfryngau i Goleg Gŵyr Abertawe


Updated 27/02/2020

Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau yng nghategori y Cyfryngau a Chreadigol  Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Llongyfarchiadau i Pariyah, band sy’n cynnwys Jasmin Eagles, Dylan Hodges, Alexa Jones-Young, Matthew Thirwell ac Eleri Van Block yn y gystadleuaeth Cerddoriaeth Boblogaidd; Leah Jones yn y gystadleuaeth Marchnata Gweledol a Wiktoria Nebka yn y gystadleuaeth Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfres o gystadlaethau a gyflwynir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, grŵp o ddarparwyr hyfforddiant o bob rhan o Gymru sy’n ennyn diddordeb cystadleuwyr ac yn eu helpu i gyflawni a llwyddo.

Roedd perfformiad byw Pariyah mor rhagorol roedd y beirniaid wedi rhuthro i lawr i siarad â nhw ar ôl eu set.

Roedd cystadlaethau Leah a Wiktoria yn wireddiadau byw o’u gwaith dylunio a gyflwynwyd mewn rownd oddefol lle cawsant eu dewis yn un o’r chwech i gyrraedd y rownd derfynol; roedd Leah wedi creu arddangosfa ffenestr ac roedd Wiktoria wedi gwneud crys, y ddau â’r thema ffasiwn a chynaliadwyedd. Y beirniaid oedd staff Prifysgol Cymru a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Bydd holl enillwyr y Cyfryngau a Chreadigol yn darganfod pa fedalau maen nhw wedi'u hennill mewn digwyddiad Dathlu yng Nghaerdydd ddydd Iau 19 Mawrth.

Tags:
art