Diweddariad gan y Pennaeth Mark Jones – 3 Chwefror 2021


Updated 03/02/2021

Hoffwn i roi’r diweddaraf i’n myfyrwyr a rhieni yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf (29 Ionawr) gan y Prif Weinidog.

Dychwelyd yn raddol o bosib
Roedd yr anerchiad wedi nodi y gallai disgyblion ysgolion cynradd ddychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor mis Chwefror (o 22 Chwefror). Dywedodd hefyd y gallai trefniadau tebyg fod yn bosibl i ddarparwyr ôl-16 fel colegau. Fodd bynnag, y grwpiau â blaenoriaeth ar gyfer dychwelyd fydd y myfyrwyr hynny sy’n astudio cyrsiau galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaid, sydd angen mynediad at hyfforddiant neu’r gweithle i wneud eu hasesiadau ymarferol.

Wrth gwrs mae’r llacio hwn yn dal i ddibynnu i raddau helaeth ar ostyngiad pellach yn nifer yr achosion o’r coronafeirws. Fodd bynnag, mae pob un o’r 13 coleg addysg bellach yng Nghymru yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r Undebau Llafur gyda’r bwriad o ddod â rhai myfyrwyr galwedigaethol yn ôl ar gyfer rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb o 22 Chwefror – ac mae’r trafodaethau hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Pellhau cymdeithasol yn dal i fod ar waith
Mae’n debygol iawn, os caniateir i ni symud ymlaen, y bydd cyfyngiadau a rheolaethau pellach yn angenrheidiol. Er enghraifft, mae’n annhebygol y bydd unrhyw swigod dosbarth a bydd gofyn i staff gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr oddi wrth eraill.

Felly, mae’n debygol y bydd goblygiadau i hyn o ran maint y dosbarthiadau y gallwn ddod â nhw i’r Coleg ar unrhyw un adeg. Bydd hefyd yn golygu bod myfyrwyr yn annhebygol o fod yn ôl yn y Coleg am fwy nag un neu ddau ddiwrnod yr wythnos, gan y bydd angen amser a gofod ychwanegol arnom i ddod â grwpiau eraill yn ôl i mewn. 

Mae’r holl waith hyn ar hyn o bryd yn cael ei fodelu a phan fydd gennym ragor o wybodaeth a manylion, byddwn wrth reswm yn rhoi gwybod i bawb.

Trafodaethau â chyrff arholi
Wrth gwrs, rhan arall o’r hafaliad yw, ar ôl dod â’r myfyrwyr yn ôl i’r Coleg, y bydd angen i ni benderfynu gyda’r cyrff arholi beth yn union sydd angen cael ei addysgu a sut mae hyn yn mynd i gael ei asesu er mwyn i fyfyrwyr allu cyflawni eu cymwysterau llawn.  

Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n estyn allan i bob un o’n cyrff arholi e.e. CBAC ar gyfer cyrsiau Safon Uwch a’r ystod eang sy’n cwmpasu cymwysterau galwedigaethol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u lleoli yn Lloegr, am y lefel hon o fanylion.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i chi yn bersonol am eich amynedd a’ch cymorth parhaus wrth i ni lywio ein ffordd gyda’n gilydd drwy’r cyfnod anodd hwn. Hoffwn eich sicrhau ein bod yn ymrwymedig i’ch cadw i ddysgu a symud ymlaen. Rydym yn deall y gall hwn fod yn gyfnod cythryblus felly cofiwch barhau i siarad â ni. Rydym yma i chi os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os oes angen cymorth arnoch.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi e-bostio info@gcs.ac.uk

Tags: