Diweddariad pellach gan y Pennaeth Mark Jones – 9 Chwefror 2021


Updated 09/02/2021

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai nifer fach o fyfyrwyr galwedigaethol yn gallu dychwelyd i’r Coleg o ddydd Llun 22 Chwefror ac, fel y gwyddoch gobeithio o’m diweddariad blaenorol, rydym wedi bod yn cynllunio at hyn yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Y myfyrwyr a fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer dychwelyd fydd y rhai sydd angen gwneud asesiadau i gwblhau eu cymwysterau a chael eu trwydded i ymarfer. 

Yn y lle cyntaf, mae’r rhain yn debygol o fod yn fyfyrwyr peirianneg, adeiladu, arlwyo, gwyddoniaeth gymhwysol, plymwaith, cerbydau modur a chyfrifeg. Ar hyn o bryd, nid yw’r rhestr hon yn cynnwys meysydd cwrs megis iechyd a gofal, oherwydd ni allwn fwrw ymlaen â lleoliadau gwaith ar hyn o bryd, na gwallt a harddwch oherwydd nid yw asesiadau ymarferol ar gyfer y sector hwn yn gallu digwydd o fewn y canllawiau pellter cymdeithasol presennol.

Bydd cadw pellter cymdeithasol nawr yn berthnasol i bawb
Wrth ddychwelyd i’r Coleg, un o’r newidiadau mwyaf y bydd myfyrwyr yn sylwi arno yw na fydd swigod dosbarth yn bodoli mwyach, a bydd rhaid i fyfyrwyr a staff gadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd ar bob adeg. Am y rheswm hwn bydd pob maint dosbarth yn cael ei haneru a byddem yn amcangyfrif, i ddechrau, y bydd yr holl fyfyrwyr yn dychwelyd am ddim mwy nag un diwrnod yr wythnos.

Rydym ar hyn o bryd yn modelu’r gwahanol ddosbarthiadau a bydd amserlenni newydd ar gael i’r myfyrwyr hyn cyn gynted ag y bo modd.

Newidiadau i orchuddion wyneb
Bydd rhaid i bawb wisgo gorchuddion wyneb tair haen (y mae’r Coleg wedi darparu’r rhain i fyfyrwyr cyn hyn) ar bob adeg. Bydd hyn yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a gweithdai, ar y campysau ac o’u hamgylch.

Cludiant
Bydd yn ofynnol i’r holl fyfyrwyr wneud eu ffordd eu hunain i’r Coleg ac yn ôl oherwydd ni fydd bysiau'r Coleg yn gallu rhedeg o hyd. Ar yr adeg hon, nid yw presenoldeb yn orfodol i fyfyrwyr a staff, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn dod, gan roi modd i’r myfyrwyr hyn ddal i fyny a gweithio tuag at eu cymwysterau.

Unwaith eto, rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol i ni i gyd, ac felly os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio info@gcs.ac.uk neu ffonio 01792 284000.

Mark Jones
Pennaeth

Tags: