​Diweddariad ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid


Updated 15/09/2021

Yr wythnos hon, cawsom wybod gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe bod y Tîm Rheoli Digwyddiadau Rhanbarthol (TRhD) yn ystyried bod y lefel risg bresennol o goronafeirws ym Mae Abertawe yn cyfateb â’r sgôr uchel ar eu fframwaith.

Yn dilyn hyn, er nad yw’r Coleg ei hun yn risg uchel, mae canllawiau TRhD yn gofyn i’r holl sefydliadau - gan gynnwys ysgolion - gymryd camau ychwanegol i helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn y gymuned ehangach.

Fel Coleg, mae gennym eisoes nifer o fesurau rheoli ar waith, sy’n cynnwys:

  • Gweithdrefnau glanhau trylwyr
  • Systemau unffordd
  • Cynlluniau seddi cyson
  • Arwyddion llawr/ystafell
  • Cadw pellter corfforol
  • Annog golchi/diheintio dwylo.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol, byddwn ni nawr yn gofyn i’r holl fyfyrwyr a staff wisgo gorchudd wyneb (oni bai eu bod wedi’u heithrio) wrth symud o gwmpas mannau cymunol dan do y tu allan i’r ystafell ddosbarth – a bydd hyn yn dechrau yfory, dydd Iau 16 Medi.

Ein ffocws allweddol, fel bob amser, yw amddiffyn addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer ein myfyrwyr, ac felly yn ogystal â’n mesurau presennol, byddwn ni’n gobeithio gweithredu’r canlynol fel rhagofalon pellach:

  • Lleihau gwibdeithiau oni bai eu bod yn gysylltiedig ag addysgu’r cwricwlwm
  • Lleihau nifer yr ymwelwyr allanol sy’n dod i’r Coleg oni bai ei bod yn hanfodol
  • Parhau i leihau nifer y staff cymorth sy’n gweithio ar y campws ar unrhyw un adeg, gan sicrhau ein bod yn ateb anghenion busnes y Coleg ar yr un pryd
  • Symud yr holl gyfarfodydd ar-lein, pan fo’n bosibl
  • Cynyddu presenoldeb rheolwyr ar draws pob campws.

Drwy wneud hyn, credaf ein bod yn parhau i gyfrannu at anghenion ehangach y gymuned yn ogystal ag amddiffyn ein myfyrwyr a’n staff ymhellach.

Byddwn yn parhau i annog yr holl staff a myfyrwyr i osgoi lleoedd gorlawn ac i gofio bod awyr iach yn bwysig, ac felly dylid cwrdd a chymdeithasu y tu allan pan fo’n bosibl.

Yn ogystal, rydym am atgoffa pawb bod brechu yn parhau i fod yn amddiffyniad hynod bwysig rhag haint, a bod sesiynau brechu galw heibio yn rhedeg yn rheolaidd ym Mae Abertawe i unrhyw un dros 16 oed. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Diolch i chi, fel arfer, am eich cymorth parhaus.

Mark Jones
Pennaeth

Tags: