Staff yn cael eu cydnabod Yng Ngwobrau Gwasanaeth Hir y Coleg


Updated 17/06/2022

Cafodd staff o Goleg Gŵyr Abertawe eu gwahodd yn ddiweddar (dydd Gwener 10 Mehefin) i ddigwyddiad dathliadol arbennig iawn yn stadiwm Swansea.com.

Mae’r digwyddiad blynyddol yn cael ei chynnal i gydnabod diolch aelodau o staff sydd wedi gweithio i’r Coleg ers dros 20 mlynedd.

Derbyniodd darlithwyr, rheolwyr a staff cymorth busnes ar draws y coleg anrhegion personol, cyn mwynhau te prynhawn.

Cafwyd adloniant i groesawu staff gan Nia Jenkins, telynores leol, a chafodd myfyrwyr dawnus Celfyddydau Perfformio Lefel 3 a 4 cyfle i ganu, i agor y seremoni yn swyddogol.

Yn y digwyddiad, cafodd mwy na 70 aelod o staff eu cydnabod am dros 20 mlynedd o wasanaeth, ac ymhlith y staff hynny a dathlodd dros 30 mlynedd o wasanaeth i’r Coleg roedd Marilyn Jones, Yana Austin, Christine Mawson, Alun Dodd, Amanda Parkes, Sian Bevan, Laura Davies a Fran Burkett.

“Roedd hi’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod ymroddiad a theyrngarwch aelodau o staff sydd wedi gweithio mor galed i’r Coleg ers amser maith,” meddai Sarah King, Cyfarwyddwr AD.

“Mae’r staff hyn wedi mentora a chefnogi sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr ac roeddem am roi rhywbeth yn ôl iddynt, fel arwydd o’n gwerthfawrogiad.”

Ffotograffau: Peter Price Media

Tags: