Skip to main content

Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3 - Cymhwyster

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
21 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Peiriannydd Seilwaith Digidol yn rhoi sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i ddysgwyr fel y gallant weithio ar systemau sy'n cysylltu amgylcheddau digidol a ffisegol.

Mae’r cwrs yn cwmpasu rhwydweithio digidol, egwyddorion rhwydweithio, caledwedd TG a chymorth sefydliadol. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i weithio mewn rolau megis Swyddog Cymorth Technegol TG, Datblygwr Meddalwedd, Datblygwr Gwe, Gweinyddwr Cronfa Ddata a Chynllunydd Rhwydwaith.

Gwybodaeth allweddol

Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer unigolion 16 oed a hŷn sydd am ddechrau neu ddatblygu eu gyrfa mewn seilwaith TG. Mae'n addas ar gyfer staff newydd a phresennol sy'n dymuno uwchsgilio.

Bydd dysgwyr yn medru casglu tystiolaeth o fewn gweithle.

Bydd dysgwyr yn gweithio gyda Thiwtor/Aseswr ymroddedig a fydd yn teilwra'r rhaglen i rolau unigol a phrofiadau blaenorol.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell ar Microsoft Teams gyda sesiynau wyneb yn wyneb opsiynol. Mae amserlenni hyfforddi yn hyblyg ac wedi'u cynllunio i osgoi unrhyw straen ar y gweithle.

Unedau dewisol

Yn ogystal ag unedau gorfodol, gall dysgwyr ddewis ystod eang o unedau dewisol i deilwra eu dysgu, gan gynnwys:

  • Gweithredu Systemau TG
  • Diagnosio Namau TG
  • Codio Cyfrifiadurol
  • Egwyddorion defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Gweithle
  • Datblygu a Gweithrediadau Integredig (DevOps).

Mae unedau eraill ar gael os gofynnir amdanynt.

Asesu

Bydd dysgwyr yn creu portffolio o dystiolaeth gan gynnwys dogfennau, sgrinluniau a gwaith ymarferol. Bydd cyfarfodydd un-i-un rheolaidd yn gyda Thiwtoriaid/Aseswyr yn hybu cynnydd.

Defnyddir Smart Assessor i fonitro a rheoli cynnydd dysgwyr yn effeithiol.

Manteision y Cwrs

Cymhwyster cydnabyddedig
Datblygiad personol a phroffesiynol
Datblygu sgiliau seilwaith TG allweddol
Cymhwysedd TG 
Yn hybu dilyniant gyrfa
Yn cyd-fynd â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y Sector TG.