Skip to main content

Digwyddiadau a Nosweithiau Agored

Darganfod sut beth yw bywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Mae ein digwyddiadau a’n nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r darlithwyr, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.

28 Awst

Digwyddiad galw heibio prentisiaethau cyflogwyr

  10am-4pm

  Ysgol Fusnes Plas Sgeti neu ar-lein

Dewch i ddysgu rhagor am y cymorth prentisiaeth sydd ar gael.

Adult learnrtd

9 a 10 Medi

Nosweithiau agored dddysg oedolion

  5.00-7.00pm

  Campws Tycoch

Ymunwch â ni ar gyfer ein nosweithiau agored addysg oedolion i archwilio’r cyfleoedd cyffrous i oedolion sydd am ddysgu rhywbeth newydd.

P’un ai ydych yn dysgu er mwyn cael hwyl, uwchsgilio, newid gyrfa, neu ddilyn addysg uwch – mae ein cyrsiau hyblyg yn cyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol a byddant yn eich helpu i gyrraedd eich nod.

School-leavers-under-tree

Nosweithiau agored cyrsiau amser llawn

Mae ein nosweithiau agored cyrsiau amser llawn wedi gorffen ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Dilynwch ni ar Eventbrite i gael y wybodaeth didweddaraf am ein nosweithiau agored yn ystod y tymor academaidd nesaf (2025/2026).

Campws Gorseinon

Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:

  • Busnes
  • Y cyfryngau creadigol
  • Peirianneg
  • Iechyd a gofal plant
  • TG
  • Cerbydau modur
  • Y celfyddydau perfformio
  • Gwasanaethau cyhoeddus
  • Chwaraeon
  • Cynhyrchu yn y theatr

Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Campws Tycoch

Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:

  • Arlwyo a lletygarwch
  • Busnes
  • Cerbydau modur
  • Chwaraeon
  • Dilyniant i AU
  • Garddwriaeth
  • Gwallt a harddwch
  • Gwasanaethau cyhoeddus
  • Iechyd a gofal plant
  • Peirianneg
  • Peirianneg electronig
  • Plymwaith
  • Teithio a thwristiaeth
  • TG
  • Trydanol

Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Campws Llwyn y Bryn

Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:

  • Celf a dylunio (gan gynnwys diploma sylfaen)
  • Ffotograffiaeth
  • Cerddoriaeth

Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Campws Llys Jiwbilî

Dere i’r noson agored hon i wybod rhagor am gyrsiau galwedigaethol amgylchedd adeiledig Lefelau 1-3 yn y meysydd canlynol:

  • Peintio ac addurno
  • Gwaith brics
  • Gwaith coed

Gelli di ofyn am ein gyrsiau amgylchedd adeiledig wedi’u lleoli ar ein campysau eraill hefyd a’n prentisiaethau.

Rhagor o wybodaeth

Ysgol Fusnes Plas Sgeti

Dysgwch ragor am ein cyrsiau lefel uwch mewn busnes, cyfrifeg a rheolaeth (o Lefel 4).

Rhagor o wybodaeth