Skip to main content

Busnes a Chyfrifeg

I ymadawyr ysgol 16-18

Archwiliwch sut mae sefydliadau’n gweithredu, yn gwneud penderfyniadau ac yn rheoli cyllid, gan ddatblygu sgiliau dadansoddol a strategol gwerthfawr ar gyfer yr economi fodern.

Ar ôl cwblhau’ch cymwysterau gallech ddefnyddio’ch sgiliau trosglwyddadwy i gael hyd i gyflogaeth yn y sector busnes a chyllid sy’n tyfu.

Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig goleg addysg bellach yn y DU i ennill statws Partner Dysgu Cymeradwy Platinwm gan ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig).

Mynd i'r cyrsiau Mynd i'r newyddion

Llwybrau gyrfa

  • Banciwr buddsoddi
  • Cyfrifydd siartredig
  • Dadansoddwr data
  • Datblygu busnes
  • Entrepreneur
  • Rheolwr prosiect

Chwilio am gwrs busnes a chyfrifeg

Newyddion

Business students with Russell Greenslade

Ymweliad gan Russell Greenslade

Roedden ni’n falch dros ben o groesawu Russell Greenslade, Cyfarwyddwr CBI Cymru ac aelod o Fwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti, i Gorseinon lle cynorthwyodd mewn Gweithdy Menter ar gyfer myfyrwyr BTEC Busnes Lefel 3.

Nod y digwyddiad oedd helpu myfyrwyr i baratoi at eu cyflwyniadau Dragon's Den unigol ar gyfer Cystadleuaeth Menter Coleg fewnol a hefyd eu haseiniad gwaith cwrs BTEC.

Un o gyn-fyfyrwyr Gorseinon yw Russell a astudiodd gwrs BTEC Busnes Lefel 3 hefyd, ac felly roedd yn awyddus iawn i gynorthwyo’r myfyrwyr presennol!

Cole Brydson

Myfyriwr Safon Uwch yn ennill gwobr economegydd ifanc

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill teitl nodedig Economegydd Ifanc y Flwyddyn Cymru gan Discover Economics.

Evan Pedrick on stage at our Annual Student Awards

Myfyriwr y Flwyddyn Busnes 2026 - Evan Pedrick

Mae Evan yn fyfyriwr ysbrydoledig sydd wedi goresgyn heriau go iawn. Mae bob amser yn barod gydag atebion yn y dosbarth ac yn gweithio’n gyson gydag uniondeb, parch ac ystyriaeth.

Mae’n cael ei barchu’n fawr gan staff a’i gyfoedion. Yn gwrtais, yn siriol ac yn glod i’w deulu, mae wedi bod yn fraint ei gynorthwyo yn ystod ei amser yn y Coleg. Rydyn ni wir yn credu bod gan Evan ddyfodol gwych o’i flaen a bydd yn gaffaeliad i’w gyflogwyr yn y dyfodol.