Cyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe
Cyfle i ennill Taleb Amazon gwerth £100 - Ymunwch â Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr CGA
A wnaethoch chi astudio yng Ngholeg Abertawe neu Goleg Gorseinon cyn i’r ddau uno i ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe?
Ymunwch â’n Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr i gael cyfle i ennill Taleb Amazon gwerth £100!
Sut i gystadlu:
1. Rhowch ‘Coleg Gŵyr Abertawe’ dan yr adran Addysg ar eich tudalen LinkedIn
2. Tanysgrifiwch i’n Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr
Gweld telerau ac amodau llawn
Ein Cyn-fyfyrwyr
Ydych chi’n fyfyriwr graddedig o Goleg Gŵyr Abertawe (neu ei hen sefydliadau, Coleg Abertawe; Coleg Gorseinon)? Os felly, byddwn ni wrth ein bodd yn ailgysylltu â chi a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am ddigwyddiadau a chyflawniadau.
Drwy gysylltu â ni, cewch gyfle i feithrin cysylltiadau gwerthfawr, mynd i ddigwyddiadau arbennig a chael mynediad i amrywiaeth o adnoddau gyrfa.
Beth bynnag rydych chi’n ei wneud nawr, ble bynnag rydych chi yn y byd, cysylltwch â ni a chymryd rhan!
Ymunwch â’n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr!
Dyma ein Cyn-fyfyrwyr
Darganfydda rai o’r manteision y mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr wedi’u cael yn eu gyrfaoedd o ganlyniad i’w hastudiaethau.
Storïau Llwyddiant Cyn-fyfyrwyr
Rydym yn falch o’n cyn-fyfyrwyr a’r llwyddiant maen nhw’n ei gael ar ôl astudio gyda ni.
Cymerwch olwg ar rai o'n straeon newyddion diweddaraf am ein cyn fyfyrwyr.
Dychwelodd wyneb cyfarwydd i Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar wrth i’r cyn-fyfyriwr Billie-Jo Matthews gamu i’r adwy i helpu i... Continue reading...
Croesawodd y myfyrwyr a’r staff arlwyo y cyn-fyfyriwr arlwyo, Nick Jones, yn ôl i’r Coleg i arddangos ei sgiliau coginio i’r myfyrwyr mis diwethaf... Continue reading...
Mae cariad at ddata yn helpu un o gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i chwarae rhan annatod yn y GIG, ar ôl i’w choleg ei chynorthwyo i ddilyn... Continue reading...