Hysbysiadau Preifatrwydd
Rhaid i Goleg Gŵyr Abertawe gasglu, prosesu, cadw a defnyddio mathau penodol o wybodaeth am bobl y mae’n delio â nhw er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o ddydd i ddydd. Mae’r bobl hyn yn cynnwys cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, cwsmeriaid, staff, partneriaid, aelodau o’r Gorfforaeth, cyflenwyr nwyddau ac eraill. Rhaid i’r wybodaeth bersonol hon, boed ar bapur, ar gyfrifiadur neu wedi’i chofnodi ar ddeunydd arall, gael ei defnyddio’n deg ac wedi’i phrosesu yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Ni ddylid datgelu’r data i unrhyw unigolyn arall yn anghyfreithlon hefyd.
Rhaid i staff a myfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:-
- bod yr holl wybodaeth a gesglir, a gedwir ac a brosesir (gan gynnwys meddalwedd y Rhyngrwyd) boed â llaw, yn ddigidol, yn electronig neu ar unrhyw ffurf arall yn destun y GDPR
- yr amgylchiadau lle gellir a lle na ellir cael mynediad i ddata personol, eu prosesu neu eu datgelu.
Noder – cyfeirir at unigolion, gan gynnwys staff a myfyrwyr, y mae’r Coleg yn cadw gwybodaeth amdanynt fel testunau data.
Mae’r Coleg yn gorff corfforaethol a Bwrdd y Llywodraethwyr felly sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â’r GDPR. Y Swyddog Diogelu Data sy’n ymgymryd â gweithrediad o ddydd i ddydd y polisi hwn a’i gyfeiriad e-bost yw dpo@coleggwyrabertawe.ac.uk