Porth Staff / Myfyrwyr

 

Porth Staff / Myfyrwyr

Mae’r Porth yn rhoi mynediad hawdd i systemau’r Coleg ar y we.

Yma gall myfyrwyr a staff gyrchu adnoddau megis Moodlee-CDU a Gwebost y Coleg.

Moodle Office 365 Gwebost Swyddfa Rithwir Cymorth e-CDU Llyfrgell GCS Hyfforddiant MoodleWiFi

Moodle

Drwy amgylchedd rhithwir y coleg gall dysgwyr gyrchu adnoddau sy'n gysylltiedig â'u cwrs a llawer mwy, er mwyn i'r dysgu barhau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Adnoddau yn cynnwys:

  • Cwrs ar-lein penodol gyda gwybodaeth am gyrsiau ac adnoddau cwricwlwm
  • Gwasanaethau'r Llyfrgell (gan gynnwys, chwilio'r llyfrgell a dolenni i eLyfrau, eGyfnodolion a phapurau newydd)
  • Sgiliau Astudio
  • Llawlyfr y Myfyrwyr
  • Gwybodaeth Amdana i
  • Dolenni defnyddiol

Cyrchu Moodle
Mewngofnodwch i Moodle drwy ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair a ddefnyddir i fewngofnodi i gyfrifiaduron personol yn y coleg.

Moodle link

Mynd I Moodle

Problemau mewngofnodi?
Os ydych chi'n cael problem wrth fewngofnodi i Moodle, cysylltwch â:
issues.loggingon@gowercollegeswansea.ac.uk
Ffôn: 01792 284082

Efallai yr hoffech chi weld y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen cymorth mewngofnodi

Office 365 i Staff a Myfyrwyr

Fel aelod o staff neu fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae gennych fynediad i Microsoft Office 365.
I gyrchu’r adnodd hwn, bydd angen cyfrif rhwydwaith coleg gweithredol arnoch.

Mewngofnodi Myfyrwyr
Gall myfyrwyr fewngofnodi i 365 trwy ddefnyddio EichEnwDefnyddiwr@stu.gcs.ac.uk ynghyd â’ch cyfrinair coleg.
e.e. bes12240123@stu.gcs.ac.uk

Mewngofnodi Staff
​Gall staff fewngofnodi i 365 gan ddefnyddio EichEnwDefnyddiwr@gcs.ac.uk a’ch cyfrinair coleg.
e.e. j.pearce@gcs.ac.uk

Gwebost y Coleg

E-bost Staff
Mae gan bob aelod o staff gyfrif e-bost coleg. 
Eich cyfeiriad e-bost fydd eich enw mewngofnodi staff wedi’i ddilyn gan @gcs.ac.uk 

I fewngofnodi i’ch e-bost, rhaid i chi ddefnyddio’r enw mewngofnodi rydych yn ei ddefnyddio yn y Coleg.

E-bost Myfyrwyr
Mae gan bob myfyriwr gyfrif e-bost coleg.
Eich cyfeiriad e-bost fydd eich enw mewngofnodi myfyriwr, e.e. BLA11107982, wedi’i ddilyn @stu.gcs.ac.uk.

I fewngofnodi i’ch e-bost, rhaid i chi ddefnyddio’r enw mewngofnodi a’r cyfrinair rydych yn eu defnyddio yn y Coleg.

Swyddfa Rithwir Staff

Mae'r Swyddfa Rithwir yn darparu mynediad diogel i'r Rhyngrwyd i ddefnyddwyr o bell sy'n gallu mewngofnodi a chyrchu adnoddau rhwydwaith preifat drwy dechnoleg SSL-VPN.

Gweld rhestr o’r adnoddau sydd ar gael ar y VPN.

O 20 Ionawr 2023, mae porth staff newydd wedi cael ei lansio i bob aelod o staff. Cliciwch yma i wylio fideo ar sut i fewngofnodi ac yna gallwch gael mynediad i’r porth staff yma.

Cymorth Dysgu Ar-lein

Rwy’n cael trafferth gyda’m cyfrinair wrth fewngofnodi i system Coleg Gŵyr Abertawe (e.e. Moodle).

Ewch i’r dudalen hon i gael cymorth gyda Moodle a mewngofnodi i systemau’r Coleg.

Sut ydw i’n cyrchu Office 365?

Fel aelod o staff neu fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae gennych fynediad i Microsoft Office 365. Er mwyn cyrchu Office 365 bydd angen enw defnyddiwr coleg a chyfrinair dilys arnoch.

I fyfyrwyr
Byddai’ch enw mewngofnodi yn defnyddio’r fformat canlynol: EnwMewngofnodiColeg@stu.gcs.ac.uk
e.e. BES12240123@stu.gcs.ac.uk

Wedi’i ddilyn gan eich cyfrinair rhwydwaith.

I staff
Byddai’ch enw mewngofnodi yn defnyddio’r fformat canlynol: EnwMewngofnodiColeg@gcs.ac.uk
e.e. s.james@gcs.ac.uk

Wedi’i ddilyn gan eich cyfrinair rhwydwaith.

Sut ydw i’n cysylltu â’m darlithydd ynghylch fy astudiaethau?

Gallwch gysylltu â’ch darlithydd mewn sawl ffordd.

  • Os yw’ch darlithydd wedi sefydlu grŵp Microsoft Teams i chi, gallwch anfon neges ato/ati o’r fan honno;
  • Pe hoffech anfon e-bost at ddarlithydd yn uniongyrchol, byddai e-bost coleg y darlithydd yn dilyn y fformat hwn: enwcyntaf.cyfenw@gcs.ac.uk;
  • Os na allwch weld manylion cyswllt y darlithydd, llenwch y ffurflen a byddwn yn ceisio eich helpu.

Rwy’n ddarlithydd ac rwy’n methu â gweld fy nghwrs ar Moodle. Sut ydw i’n ychwanegu cwrs newydd?

Llenwch y ffurflen hon gyda chynifer o fanylion ag sy’n bosibl am y cwrs gan gynnwys cod y cwrs/sesiwn, teitl llawn y cwrs, math o gwrs (e.e. Safon uwch, galwedigaethol) a’r campws perthnasol. Os yw’n bosibl, awgrymwch y categori gorau ar gyfer eich cwrs newydd.

Nodwch unrhyw ddarlithwyr y bydd angen mynediad athro/athrawes arnynt os yw’n bosibl, fel y gallwn roi mynediad i chi ar unwaith.

Pan fydd y cwrs wedi cael ei greu, byddwn yn e-bostio cyfeiriad gwefan y cwrs (URL) i chi fel y gallwch ddechrau gweithio ar gynnwys y cwrs.

Sut ydw i’n cyrchu e-Lyfrau ac e-Adnoddau?

Mae rhestr o e-Adnoddau ar gael yma.

Beth yw Canvas a sut ydw i’n cael mynediad iddo?

 

Mae Canvas yn blatfform dysgu ar-lein y mae’r Coleg wedi’i brynu i’w ddefnyddio gan staff a myfyrwyr ar gyrsiau DSW/Hyfforddiant GCS ar Gampws Llys Jiwbilî. Mae’n rhoi modd i staff:

  • Lanlwytho a rhannu deunyddiau cwrs
  • Creu dolenni i adnoddau defnyddiol ar-lein
  • Gosod a marcio aseiniadau ysgrifenedig
  • Creu cwisiau dewis lluosog wedi’u hawtofarcio

Cyrchu Canvas

Pan fyddwch wedi creu cyfrif (gweler isod) gallwch fewngofnodi i Canvas yma trwy eich porwr gwe. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio porwr Gwgl Chrome, ond mae Firefox, Edge a Safari yn cael eu cefnogi hefyd. Sylwch nad yw Canvas yn cefnogi Internet Explorer 11 (neu hŷn) mwyach ac felly nid yw’n bosibl mewngofnodi i Canvas os ydych yn dal i’w ddefnyddio. Os felly, rydym yn argymell eich bod yn gosod porwr Chrome  y gallwch ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim. 

Canvas i Staff

Dylech anfon cais i anthony.sales@gcs.ac.uk gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a theitl y cwrs rydych am ei greu a/neu am gael myndediad iddo.

Ar ôl cofrestru byddwch yn cael gwahoddiad ar e-bost. Cliciwch ar y ddolen ‘Dechrau’, derbyn y gwahoddiad cwrs ar frig y dudalen a chofrestru am gyfrif. 

Canvas i Fyfyrwyr

Bydd eich athro/athrawes yn eich cofrestru ar y cwrs ac anfon gwahoddiad e-bost atoch. Cliciwch ar y ddolen ‘Dechrau’, derbyn y gwahoddiad cwrs a chofrestru am gyfrif.

Heb ateb eich cwestiwn? Cyflwynwch ymholiad yma

Wi-Fi / eduroam y Coleg

Mae'r Coleg yn falch o gynnig mynediad i eduroam.
I gysylltu â Wi-Fi y Coleg cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

College WiFi / Eduroam

Cofnodi Absenoldeb Myfyriwr

Os na allwch fynychu'r coleg, rhowch wybod eich bod yn absennol