Newyddion y Coleg
Coleg Gŵyr Abertawe ar Restr Symudedd Cymdeithasdol 2024
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi ei fod ar Restr Symudedd Cymdeithasol 2024, menter sy’n cydnabod ysgolion a cholegau sy’n cymryd camau sylweddol wrth ddatblygu symudedd cymdeithasol ar hyd a lled y DU.
Y cyntaf o’i fath, mae’r Rhestr Symudedd Cymdeithasol, mewn partneriaeth â bp, yn gyhoeddiad arloesol newydd gan Making The Leap i’w gyhoeddi yn flynyddol, gan dynnu sylw at y cyfranwyr a’r mentrau allweddol sy’n llywio symudedd cymdeithasol yn y DU.
Darllen mwyGwdihŵs CGA yn Hedfan i Fuddugoliaeth
Yn Dominyddu e-Chwaraeon yng Ngrwpiau Gaeaf y DU am yr Ail Flwyddyn yn Olynol
Mae timau e-Chwaraeon Gwdihŵs Coleg Gŵyr Abertawe wedi ei gwneud hi eto!
Darlithydd Ffasiwn Lleol yn Gwau 365 o Hetiau ar gyfer pobl Ddigartref Abertawe
Mae Susanne David, Darlithydd amser llawn mewn Ffasiwn yng ngholeg Gŵyr Abertawe yn dangos y gall caredigrwydd a chreadigrwydd wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ddigartref. Yn ogystal â’i rôl addysgu heriol, penderfynodd Susanne ymgymryd â her bersonol sy’n mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau yn yr ystafell ddosbarth - gwau 365 o hetiau ar gyfer unigolion mewn angen, un het ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe’n sicrhau Achrediad Rhuban Gwyn y DU: Ymrwymiad i roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Merched
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi ei fod wedi sicrhau achrediad Rhuban Gwyn y DU. Mae hyn yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Fel sefydliad achrededig, mae’r Coleg wedi sefydlu grŵp llywio Rhuban Gwyn sy’n cynnwys llysgenhadon a hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn. Maent yn gweithio tuag at hybu newid diwylliant mewn ffordd gadarnhaol er mwyn sicrhau bod menywod yn cael eu clywed.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn un o 49 sefydliad i dderbyn coeden ifanc fel rhan o brosiect ‘Coed Gobaith’ Sycamore Gap
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn un o goed ifanc prosiect ‘Coed Gobaith’ Sycamore Gap. Bydd 49 o goed ifanc yn cael eu rhoi i unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y DU.
Darllen mwyCyngerdd elusennol arbennig i godi ymwybyddiaeth o MND a chodi arian ato
Cafwyd noson arbennig o gerdd a chân yn ddiweddar yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wrth i ni gynnal cyngerdd elusennol i gefnogi’r frwydr yn erbyn Clefyd Niwronau Motor (MND).
Yn ystod y digwyddiad - a gynhaliwyd ar Gampws Tycoch - cafodd côr meibion Gwalia Singers, Abigail Rankin, Isobel McNeill a Carys Morgan (myfyrwyr) gyfle i berfformio.
Graddedigion Coleg 2024 yn dathlu eu cyflawniadau
Mae dros 150 o fyfyrwyr addysg uwch Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle i ddathlu eu llwyddiant mewn seremoni raddio arbennig yn Arena Abertawe.
Cawsant gyfle i ddathlu eu cyflawniadau mewn ystod eang o bynciau lefel uwch megis busnes a chyfrifeg, cyfrifiadura cymhwysol, addysgu, peirianneg, arwain a rheoli, iechyd a goal cymdeithasol a gofal plant.
Tîm anhygoel y Coleg yn mynd i ‘Oscars' y proffesiwn addysgu
Bydd tîm addysgu ysbrydoledig o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Lundain ar gyfer ‘Oscars’ y proffesiwn addysgu ar 30 Tachwedd, lle bydd seremoni Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson y DU yn anrhydeddu ac yn dathlu cyflawniadau rhagorol addysgwyr ledled y DU.
Yn y seremoni, bydd tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu’r Coleg yn cystadlu i ennill Gwobr Aur, ar ôl cael eu cydnabod ymhlith miloedd o enwebeion yn gynharach eleni pan enillon nhw Wobr Arian am Dîm AB y Flwyddyn.
Penodi Llysgenhadon Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi 20 Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, gyda thri ohonynt wedi eu penodi mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg.
Bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg tra yn y coleg i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Ymhlith y criw newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eleni bydd:
Alexandra Anekore
Aneurin Hywel
Ariella Rees-Davies
Tîm cyflogadwyedd yn cystadlu am wobrau mawr
Mae darpariaeth cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cymdeithas Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (ERSA) 2024.
Darllen mwyPagination
- Page 1
- Tudalen nesaf ››