Peirianneg
Peirianneg yw un o’r sectorau diwydiant sy’n tyfu gyflymaf yn y byd ac mae’r cyfleoedd mae’n eu cynnig yn ddiderfyn! Y diffiniad o beirianneg yw cymhwyso gwyddoniaeth a mathemateg i ddatrys problemau.
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â meddylfryd academaidd yn ogystal â’r rhai sy’n fwy dawnus yn ymarferol y mae’n well ganddynt waith ymarferol.
Llwybrau gyrfa
- Cemegol
- Mecanyddol
- Sifil
- Trydanol/Electronig
Sicrhau eich dyfodol
Mae gennym y cyfleoedd dilyniant canlynol yn y Coleg:
Diploma/Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn:
- Peirianneg Drydanol ac Electronig
- Peirianneg Fecanyddol
- Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil
- Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Integredig (BEng)
Fel arall, gallech chi symud ymlaen i’r brifysgol neu gael cyflogaeth yn y diwydiant.
Chwilio am gwrs Peirianneg
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 Pearson
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch: Chwaraeon Moduro Lefel 3 - Diploma
Lefel 3 BTEC Subsidiary Diploma / Diploma
Safon Uwch Electroneg
Lefel 3 A Level
Technoleg Peirianneg EAL NVQ PEO
Lefel 2 EAL
Technolegau Peirianneg (Amlsgiliau) Lefel 1 - Diploma
Lefel 1 Diploma
Newyddion

Diwrnod ar y Trac
Aeth ein myfyrwyr Chwaraeon Moduro AME BTEC Lefel 3 i ddigwyddiad trac ar y cyd â thîm Chwaraeon Moduro PCDDS yn Nhrac Rasio Pen-bre.
Mae’r cwrs ar gyfer selogion peirianneg a chwaraeon moduro sydd eisiau cael gyrfa yn y diwydiant.
Diolch yn fawr iawn i’r tîm chwaraeon moduro yn PCDDS am eu cymorth.

EESW – Llwyddiant myfyrwyr Safon Uwch Electroneg
Mae grŵp o fyfyrwyr Safon Uwch Electroneg wedi ennill gwobr Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW) am eu defnydd o godio a TG.
Sefydlwyd prosiect Chweched Dosbarth EESW yn 1989 ac mae myfyrwyr o Gymru benbaladr yn cymryd rhan yn y cynllun nodedig hwn sy’n eu hannog i ystyried gyrfa mewn peirianneg. Maen nhw’n ymuno â pheiriannydd proffesiynol, a chynrychiolwyr o gwmnïau neu brifysgolion i ddatrys problem peirianneg, meddwl am ateb, ac adeiladu prototeip ar gyfer eu tasg.

Myfyriwr medrus yn anelu at Tsieina
Mae Kane Morcom, sy’n astudio Peirianneg Electronig L3 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, yn paratoi ar gyfer taith newid bywyd mewn ymgais dewr i gynrychioli’r DU ar y llwyfan rhyngwladol yn y ‘gemau olympaidd sgiliau’ yn Tsieina.