Skip to main content

Mynediad i Fusnes a Gwasanaethau Ariannol

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae hwn yn gwrs newydd ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd i addysg er mwyn symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella cyfleoedd gyrfa yn y sector busnes neu wasanaethau ariannol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau gorfodol a dewisol sy’n cyfrannu at eich Diploma Mynediad i AU.

Mae unedau pwnc yn cynnwys: Prosiect Ymchwilio; Gweinyddu Busnes; Cyllid Busnes; Marchnata; Adnoddau Dynol; Gofynion Rheoleiddiol mewn Gwasanaethau Ariannol.

Mae unedau sgiliau gorfodol yn cynnwys: Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Mynediad i AU; Cyflwyniadau Llafar; Sgiliau Astudio; Mathemateg.

Gwybodaeth allweddol

Mae’n debygol bod ymgeiswyr yn dychwelyd i ddysgu a gallant astudio rhaglenni Mynediad o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael cyfweliad i bennu eu haddasrwydd i ofynion y rhaglen sy’n ystyried (i) nodau (ii) profiad bywyd (iii) profiad addysgol yr ymgeiswyr.

Bydd ymgeiswyr yn cael cyngor os bydd llwybrau Lefel 3 yn fwy priodol i’w nodau.

Mae’n bosibl hefyd y bydd ymgeiswyr yn cael cyngor ar y dechrau i ystyried ein rhaglen Cyn-fynediad Lefel 2 i’w paratoi ymhellach a chael cyngor ar eu haddasrwydd i astudio ar y llwybr Lefel 3.

Mae’r Diploma Mynediad 60-credyd newydd hwn yn cael ei asesu’n barhaus drwy gwblhau cyfuniad o unedau gorfodol a dewisol.

Bydd dulliau asesu’n cynnwys amrywiaeth o waith prosiect ac aseiniadau, traethodau, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil a phrofion. Bydd gofyn i chi gynnal eich ffeil cwrs i’r safon ofynnol ar gyfer corff dyfarnu Agored.

Mae angen lefel uchel o ymrwymiad i’r unedau a asesir yn barhaus er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud cais i astudio cwrs Addysg Uwch mewn amrywiaeth eang o lwybrau cysylltiedig â chyfrifiadura megis HND Busnes a Chyfrifeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe neu Radd mewn Busnes a Rheoli / Busnes a Chyllid / Cyllid a Buddsoddi.