Skip to main content

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes: Defnyddiwr Digidol Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
21 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn. Mae dau lwybr ar gael:

  1. Defnyddiwr Digidol
  2. Cymorth Cymwysiadau Digidol

Mae’r ddau lwybr yn datblygu ac yn ymgorffori sgiliau digidol trwy ddysgu galwedigaethol yn y swydd i wella galluoedd digidol unigol a sefydliadol. Maen nhw hefyd yn ategu cenhadaeth tri o Strategaeth Ddigidol i Gymru 2021 sef ‘Creu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y galluogrwydd a’r hyder i ragori yn y gweithle ac ym mywyd pob dydd’.

Bwriedir y llwybr defnyddiwr digidol yn bennaf i ymgeiswyr mewn rolau megis:

  • Swyddogion gweinyddol, sy’n trin data a dogfennau
  • Gweithwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, sy’n rhyngweithio â systemau digidol ac awtomatiaeth
  • Gweithwyr iau, gweithwyr neu arweinwyr tîm, sy’n defnyddio systemau digidol â ffocws ar ddata i brosesu a storio data
  • Bron pob defnyddiwr systemau digidol a data sylfaenol o unrhyw fath

Gwybodaeth allweddol

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr ymroddedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas i’w rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau a ddewiswyd ganddynt a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos cymhwysiad o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Meddalwedd rheoli data
  • Cyfathrebu Digidol
  • Meddalwedd Taenlenni
  • Prosesu geiriau: Defnyddio nodweddion uwch
  • Diogelwch digidol ar gyfer busnes
  • A mwy!

Unedau dewisol

  • Cyfrifoldeb Digidol
  • Llythrennedd Gwybodaeth Ddigidol
  • Trin a Chynrychioli Data Uwch ar gyfer TG
  • Meddalwedd Cronfa Ddata
  • Meddalwedd Rheoli Prosiect
  • Gyda llawer mwy ar gael!

Er mwyn cwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiectau a thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned ac yna byddan nhw’n rhoi’r rhain ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp ac un-i-un rheolaidd gyda’r tiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaeth ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.