Skip to main content

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes: Cymorth Cymwysiadau Digidol Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
AGORED
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn. Mae dau lwybr ar gael:

  1. Defnyddiwr Digidol
  2. Cymorth Cymwysiadau Digidol

Mae’r ddau lwybr yn datblygu ac yn ymgorffori sgiliau digidol trwy ddysgu galwedigaethol yn y swydd i wella galluoedd digidol unigol a sefydliadol. Maen nhw hefyd yn ategu cenhadaeth tri o Strategaeth Ddigidol i Gymru 2021 sef ‘Creu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y galluogrwydd a’r hyder i ragori yn y gweithle ac ym mywyd pob dydd’.

Bwriedir y llwybr cymorth cymwysiadau yn bennaf i ymgeiswyr y mae eu rôl yn cynnwys:

  • Cefnogi cymwysiadau digidol, dyfeisio atebion a rhoi cymorth i gydweithwyr
  • Gweithio ar ddesgiau cymorth, gyda chyfrifoldeb penodol am gymorth cymwysiadau i ddefnyddwyr
  • Cymryd cyfrifoldeb am gymorth cymwysiadau i ddefnyddwyr a datrys problemau o ddydd i ddydd
  • Gweithio gyda darparwyr cymwysiadau digidol trydydd parti

Gwybodaeth allweddol

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr ymroddedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas i’w rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau a ddewiswyd ganddynt a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos cymhwysiad o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Diogelwch systemau TG a thelathrebu
  • Prosesu data
  • Gweinyddu prosiect TG
  • Rhannu gwybodaeth ddigidol
  • Paratoi dogfennau a chyhoeddiadau

Unedau dewisol

  • Meddalwedd pwrpasol
  • Meddalwedd arbenigol
  • Deall potensial TG
  • Cymwysiadau a yrrir gan ddata
  • Dewis a gosod systemau digidol
  • Gwella meddalwedd bresennol
  • Gyda llawer mwy ar gael!

Er mwyn cwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiectau a thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned ac yna byddan nhw’n rhoi’r rhain ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp ac un-i-un rheolaidd gyda’r tiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaeth ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.