Skip to main content
Coleg ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Amrywiaeth a Chynhwysiant

Coleg ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau a Hyfforddiant 2026, yn y categori Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae Wythnos AB a Gwobrau Prentisiaethau a Hyfforddiant AELP, ar y cyd â City & Guilds, yn dathlu llwyddiannau rhagorol cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant o bob cwr o’r DU. Mae’r gwobrau nodedig hyn yn cydnabod y rhai sy’n siapio gweithlu medrus a chynhwysol ar gyfer y dyfodol trwy eu hymrwymiad i brentisiaethau a hyfforddiant a datblygiad ehangach.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i’n rhaglenni prentisiaeth a  hyfforddiant. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi trawsnewid mynediad, cyfranogiad a llwyddiant i ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol, yn enwedig y rhai ag anableddau, cyflyrau iechyd hirdymor ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Ers 2015, mae cyfran y prentisiaid sy’n datgan ADY wedi tyfu o 1.6% i 15% o brentisiaethau a dechreuwyd yn 2023/24, sy’n cynrychioli cynnydd o 205% mewn cofrestriadau, a chyfradd cyflawni o  75%. Mae hyn yn dangos effeithiolrwydd ein dull cynhwysol o ddarparu cyfleoedd a dileu rhwystrau.

Mae iechyd meddwl a lles wrth wraidd pob agwedd ar ein strategaeth gynhwysiant. Mae’r Coleg wedi datblygu pecyn cymorth iechyd meddwl a lles, sydd ar gael 24/7 trwy Moodle, ac sy’n rhoi canllawiau ymarferol, adnoddau hunangymorth, a dolenni i gymorth proffesiynol ar gyfer prentisiaid, cyflogwyr a staff.

Mae ei effaith yn sylweddol: fe wnaeth 1,853 o fyfyrwyr a 1,029 o staff fanteisio ar y pecyn cymorth yn 2023/24, a 1,397 o fyfyrwyr a 654 o staff yn 2024/25, sy’n adlewyrchu ei werth a’i ymgysylltiad eang. Ategir hyn gan Togetherall, sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl, wedi’i addasu’n  glinigol, ddydd a nos, gan sicrhau y gall dysgwyr gael mynediad at gymorth lles diogel ar unwaith. 

Mae dros 300 o aelodau o staff wedi cwblhau hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gyda mwy na 200 yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth arbenigol, a thros 100 yn cael hyfforddiant fel swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl. 

I gryfhau cymorth arbenigol, mae’r Coleg wedi penodi Rheolwr ADY i arwain tîm ymroddedig o arbenigwyr ADY gwybyddol a niwroamrywiaeth, gyda chymorth Cydlynwyr AAAA, Swyddogion Cymorth Dysgu a Rheolwyr Dysgu Seiliedig ar Waith. 

Rydym yn gwella hygyrchedd ymhellach trwy fenthyciadau technoleg gynorthwyol, cymorth yn y dosbarth, a deunyddiau dysgu addasol, ochr yn ochr â phartneriaethau gydag arbenigwyr cenedlaethol mewn dyslecsia, dyspracsia, ADHD, awtistiaeth, ac amhariadau ar y synhwyrau. 

Mae ein harferion cynhwysol wedi’u cydnabod yn genedlaethol, gan gynnwys Gwobr Efydd Stonewall 2023, Menter Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau Cymru iach Ar Waith 2021, a Menter Iechyd a Lles Orau CIPD 2023. 

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i adeiladu ar ei gyflawniadau er mwyn parhau i ddatblygu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws pob rhaglen brentisiaeth” meddai’r Pennaeth Paul Kift. “Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio ar ehangu mynediad, gwella cymorth lles ac ymgorffori arferion cynhwysol ar draws taith y dysgwr a’r cyflogwr gyda ffocws cryf ar ymgysylltiad cyflogwyr a’r gymuned.

“Byddwn ni’n parhau i greu amgylchedd prentisiaeth cynhwysol lle mae amrywiaeth yn cael ei dathlu, rhwystrau eu dileu a lle mae gan bob prentis yr offer, yr hyder a’r cymorth i gyrraedd ei botensial llawn.”

Cynhelir Gwobrau Prentisiaethau a Hyfforddiant 2026 ar 3 Mawrth.