Mae darlithydd Hanes o Goleg Gŵyr Abertawe yn anelu am Wobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn Llundain ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, lle bydd hi’n cael gwybod a ydyw wedi ennill Gwobr Aur yng nghategori Darlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn.
Bydd y seremoni flynyddol, sy’n cael ei hadnabod fel ‘Oscars’ y byd addysgu, yn dod ag athrawon, darlithwyr, staff cymorth, ysgolion a cholegau o bob cwr o’r wlad at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau ac effaith addysgwyr.
Cafodd Andrea Davies ei henwebu am y wobr oherwydd, fel Arweinydd y Cwricwlwm Hanes Modern ar Gampws Gorseinon, mae hi’n esiampl o arweinyddiaeth ragorol a rhagoriaeth addysgu, gan gyfuno trylwyredd academaidd â chynhesrwydd, dilysrwydd a brwdfrydedd heintus sy’n ysbrydoli myfyrwyr i ragori ar eu disgwyliadau eu hunain.
Trwy ei harweinyddiaeth weledigaethol ym maes addysg yr Holocost yn arbennig, mae Andrea wedi trawsnewid y ffordd y mae dysgwyr ôl-16 oed yn ymgysylltu ag un o bynciau mwyaf cymhleth a sensitif hanes.
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Holocaust Educational Trust (HET), mae Andrea wedi ymgorffori arferion gorau, a gydnabyddir yn rhyngwladol, mewn addysg bellach ledled Cymru. Un o gyflawniadau diffiniol ei harweinyddiaeth fu sefydlu Hyb Cymunedol Tystiolaeth 360 cyntaf Cymru yn y Coleg.
“Mae Andrea yn esiampl o arweinyddiaeth ragorol a rhagoriaeth addysgu, ac rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi yn y ras i ennill Gwobr Aur Pearson – mae hi mor haeddiannol ohoni,” meddai Kelly Fountain, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe.
“Mae ei gwaith blaenllaw yn y sector, yn enwedig ym maes addysg yr Holocost, wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar ein dysgwyr ac mae hi’n eu hysbrydoli i feddwl yn ddwfn, cyflawni mwy nag yr oedden nhw’n meddwl yn bosibl a dod yn ddinasyddion meddylgar, gwybodus. Mae angerdd, cynhesrwydd a phroffesiynoldeb Andrea yn gosod y safon ar gyfer sut beth yw addysgu gwych, ac mae pawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn hynod falch ohoni.
“Mae effaith ei gwersi ar ein dysgwyr wedi bod yn ddwys, gyda llawer yn disgrifio eu profiad yn ei hystafell ddosbarth fel un trawsnewidiol. O dan arweinyddiaeth Andrea, mae llwyddiant Hyb Cymunedol Tystiolaeth 360 wedi ennill cydnabyddiaeth y tu hwnt i’r Coleg, gan ehangu i ysgolion Sir Benfro yn 2025, ac mae’r diddordeb wedi rhagori ar y disgwyliadau.”
Bydd y seremoni wobrwyo fawreddog yn cael ei chynnal yn The Brewery yng nghanol Llundain dan ofal y cyflwynydd teledu a’r darlledwr Gaby Roslin. Dim ond un Enillydd Aur a gyhoeddir ym mhob un o 16 categori’r gwobrau.
Wedi’u rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol, a noddir gan Pearson, cwmni dysgu gydol oes y byd, mae’r gwobrau’n taflu goleuni ar y rolau allweddol y mae athrawon, staff cymorth, colegau, ysgolion ac addysgwyr blynyddoedd cynnar yn eu chwarae wrth ysbrydoli pobl ifanc bob dydd.
Dywedodd Mary Palmer, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu:
“Mae addysgwyr ledled y wlad yn gweithio bob dydd i gefnogi ac addysgu pobl ifanc, heb fawr o gydnabyddiaeth o’u cyfraniadau gwerthfawr i’w hysgolion a’u cymunedau. Mae’r seremoni wobrwyo yn gyfle pwysig i ddiolch iddynt am eu cyfraniadau i addysg a dathlu’r effaith gadarnhaol y maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl. Dwi’n edrych ymlaen at longyfarch ein holl enillwyr 2026 a dymuno’r gorau iddynt cyn y seremoni.”