Mae Horia Hirica, prentis Marchnata Digidol Lefel 3 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe newydd ennill gwobr Prentis y Flwyddyn – Uwch (Lefel 3) yn Seremoni Wobrwyo Prentisiaethau Amazon yn Llundain.
Mae'r categori yma yn cydnabod perfformiad ac effaith eithriadol ac fe ddewiswyd yr enillydd ar ôl cynnal proses drylwyr: cafodd prentisiaid eu henwebu gan randdeiliaid mewnol, ac roedd angen iddynt gynnwys tystiolaeth a oedd yn cefnogi eu henwebiadau, gan gynnwys data ac enghreifftiau cysylltiedig. Cafodd Horia ei roi ar y rhestr fer a'i wahodd i'r seremoni ac fe wnaeth panel o saith beirniad ystyried ei enwebiad gan ei gymharu â’r unigolion eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Mae Horia yn astudio cymhwyster Marchnata Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol Lefel 3 yn y coleg gan weithio fel Prentis Marchnata yn Veeqo, sef un o gwmniau Amazon. Roedd astudio ochr yn ochr â'i swydd yn golygu y gallai roi'r hyn a ddysgodd ar waith yn uniongyrchol, gan weithio ar ymgyrchoedd go iawn a lansio cynnyrch a strategaethau.
Tynnodd y beirniaid sylw at waith Horia mewn perthynas â lansio caledwedd warws newydd, sef rhaglen wedi'i bersonoli y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer gwerthwyr ac ymgyrchoedd mewn-app, gan gynnig cyfle gwirioneddol i sicrhau refeniw sylweddol.
Fel rhan o’r prosiect cafodd Horia gyfle i weithio gydag uwch gydweithwyr, ac mae hyn wedi helpu ei yrfa i symud ymlaen yn gyflym. Ers hynny mae wedi ymuno â Phwyllgor Prentisiaethau Amazon ac mae wedi mabwysiadu cyfleoedd arweinyddiaeth newydd.
Ar ôl y seremoni, dywedodd Horia:
"Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anhygoel llawn cyfleoedd rhwydweithio. Rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniad!"
Dyma oedd ei gyngor i eraill ar ôl astudio’r brentisiaeth:
"Peidiwch â gwahanu 'gwaith' ac 'astudio' yn eich pen; maen nhw’n mynd law yn llaw."
Ychwanegodd Chris Rixon, Pennaeth Marchnata Veeqo:
“Rydyn ni’n falch iawn o weld bod gwaith caled Horia wedi cael ei gydnabod trwy’r wobr nodedig hon. Mae ein prentisiaid nid yn unig yn cael profiad amhrisiadwy yma yn Veeqo, ond maen nhw hefyd yn aelodau gwerthfawr a hanfodol o’n tîm. Rydyn ni wrth ein bodd o weld cyfraniad Horia at y busnes yn cael ei ddathlu gan bwyllgor Gwobrau Prentisiaid Amazon”.
Dywedodd Paul Kift, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe:
“Rydym yn falch o Horia. Mae ennill y wobr yn gamp aruthrol ac yn dangos beth all gael ei gyflawni pan fydd dysgwyr dawnus, cyflogwyr cefnogol a staff ymroddedig y Coleg yn gweithio gyda’i gilydd. Mae prentisiaethau’n rhoi cyfle i bobl ennill cyflog wrth iddynt ddysgu ac adeiladu gyrfa, ac mae Horia yn enghraifft wych o hynny. Llongyfarchiadau, Horia, gan bawb yn y coleg.”
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ennill wrth ddysgu ddarganfod mwy yn un o nosweithiau agored y coleg. I gofrestru, ewch i gcs.ac.uk/cy/digwyddiadau.