Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei enwi yn un o’r ysgolion gwladol / colegau gorau yn y DU ar gyfer dilyniant i brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen.
Mae’r Daily Mail wedi cyhoeddi rhestr o’r 30 ysgol a choleg gorau yn y DU sy’n pontio’r bwlch ar gyfer myfyrwyr ysgolion gwladol sy’n mynd i brifysgolion elit, yn ôl ffigurau 2024.
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd rhestr y 30 uchaf ac rydyn ni’n parhau i fynd o nerth i nerth yn 2025,” meddai’r Pennaeth Dros Dro, Paul Kift.
“Eleni, cafodd 14 o’n myfyrwyr Anrhydeddau CGA gynnig lleoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt sydd yn gyflawniad arbennig. Daeth y myfyrwyr hyn atom o amrywiaeth o ysgolion cyfun lleol gan gynnwys Cefn Hengoed, Llandeilo Ferwallt, Cwmtawe a Phen-yr-heol.
“I Goleg Gŵyr Abertawe gael ei gydnabod yn swyddogol fel hyn, fel sefydliad sy’n palmantu’r ffordd i’r prifysgolion mwyaf nodedig, yn dyst go iawn i waith caled ac ymroddiad tîm Anrhydeddau CGA a’n holl staff addysgu Safon Uwch a’n staff cymorth.”
Anrhydeddau CGA yw rhaglen cyfoethogi a chymorth academaidd y Coleg i fyfyrwyr Safon Uwch sydd am wneud cais i’r prifysgolion gorau yn y DU a thu hwnt. Dan arweiniad Dr Emma Smith, mae’n cynnwys Academi Seren, menter Step-Up, Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt, a Rhaglen Paratoi Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon.
Mae Anrhydeddau CGA yn helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwahaniaethol am eu dyfodol academaidd, yn eu herio i archwilio eu disgyblaeth academaidd, ac yn eu hannog i feddwl yn feirniadol ac yn annibynnol.
Yn 2025, fe wnaeth cyfradd basio Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe godi i 100%, sy’n llawer uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru sydd yn 97.5%.
Ymhlith y rhain, cafodd 12% y radd uchaf o A* (a oedd yn 9% yn 2024 ac eto yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru sef 10.5%), cafodd 34% raddau A*-A (cyfartaledd cenedlaethol Cymru oedd 29.5%), cafodd 65% raddau A*-B, ac roedd gwelliant parhaus o ran graddau A*-C a oedd yn 85%.