Skip to main content
 

Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal Diwrnod Arloesi Microsoft

Yn ddiweddar fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe groesawu Microsoft ac arbenigwyr o fewn y diwydiant i Gampws Tycoch i Ddiwrnod Arloesi Microsoft. Dyma garreg filltir nodedig ym mherthynas y coleg â’r arweinwyr technoleg byd-eang. 

Mae’r Diwrnod Arloesi yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau rhwng Coleg Gŵyr Abertawe a Microsoft, a thrwy gyfres o weithdai mae'r Coleg wedi bod yn gweithio i ddod â thechnolegau a mewnwelediadau digidol arloesol i ddysgwyr a staff, gan hybu’r broses o ymgorffori arloesedd a sgiliau digidol ar draws pob maes cwricwlwm.

Roedd staff a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn bresennol yn y digwyddiad a chawsant gyfle i archwilio deallusrwydd artiffisial (AI), gyd a ffocws penodol ar dechnolegau Microsoft Copilot ac Agent. Fe gyflwynodd cynrychiolwyr sesiynau ac arddangosiadau rhyngweithiol a oedd yn tynnu sylw at sut mae'r offer hyn yn trawsnewid diwydiannau, gweithleoedd ac addysg.

Roedd rhai o'r pynciau allweddol a drafodwyd yn y sesiwn yn cynnwys AI, dyfodol AI yn y sector cyhoeddus yn ogystal â defnyddio AI at ddibenion cynhwysiant. Roedd y sesiwn yn cynnwys ystod eang o siaradwyr gan gynnwys Andrea Jones o AI Cymru ac arbenigwyr Microsoft Drew Thomas, James Williams a Tim Hinchey.

Wrth siarad am y digwyddiad a’r bartneriaeth gyda Microsoft, dywedodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:

“Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg Gŵyr Abertawe a Microsoft yn agor cynifer o lwybrau newydd a chyffrous ar gyfer arloesedd. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddysgu pa mor ddefnyddiol yw Deallusrwydd Artiffisial a Microsoft Copilot ym myd diwydiant, ac i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddechrau adeiladu asiantiaid Copilot ar gyfer ein hanghenion ein hunain.”

“Bydd y digwyddiad hwn yn ein helpu i arloesi’r cwricwlwm fel y bydd dysgwyr yn elwa yn uniongyrchol gan arwain at leihau llwyth gwaith ein staff yn sylweddol. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y bartneriaeth â Microsoft yn parhau i’n helpu i weithredu ar flaen y gad o ran galluogi digidol.”

Dywedodd Andrea Jones, Arweinydd Cangen AI Wales a’r prif siaradwr yn y digwyddiad:

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gwneud camau beiddgar ym maes addysg Deallusrwydd Artiffisial, ac roedd hi’n fraint cefnogi eu cynnydd. Yn  AI Wales, rydyn ni’n ystyried y sector Addysg Bellach fel pwerdy ar gyfer trawsnewid digidol – a phartner hollbwysig o ran cau’r bwlch sgiliau.”

“Mae AI Wales yn falch o sefyll ochr yn ochr â’r Coleg wrth iddyn nhw siapio dyfodol talent yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd Tina Owen, Gweithredwr Cyfrif  Llywodraeth Ddatganoledig Microsoft: 

“Rydyn ni’n gyffrous i weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe i gefnogi datblygiad sgiliau deallusrwydd artiffisial ar draws y Coleg. Ein nod yw hybu a meithrin dealltwriaeth o dechnolegau deallusrwydd artiffisial.”

“Roedd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau craff, gweithgareddau ymarferol yn ogystal â thrafodaethau agored.”

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle gwerthfawr i staff ddatblygu eu dealltwriaeth o'r datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial, ganarchwilio sut y gall darparwyr addysg gefnogi parodrwydd digidol a chynhwysiant ar draws pob sector.

Wrth i Goleg Gŵyr Abertawe barhau i gryfhau ei bartneriaeth â Microsoft, mae digwyddiadau o’r fath yn atgyfnerthu ein ymrwymiad i baratoi dysgwyr ar gyfer y dyfodol digidol a sicrhau bod gan staff yr offer a'r wybodaeth i gynnig profiadau dysgu trawsnewidiol.