Daeth dysgwyr ledled De Cymru ynghyd yn ddiweddar mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gydnabod myfyrwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster CIH achrededig Coleg Gŵyr Abertawe mewn Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl.
Mae’ cymhwyster newydd (sy’n para chwe mis) wedi’i gynllunio i annog a hybu safonau da mewn perthynas â llety a rentir yn breifat, gan helpu landlordiaid, asiantaethau gosod a thenantiaid i ddeall a chyflawni eu dyletswyddau. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig gwybodaeth hanfodol i landlordiaid preswyl ac asiantau gosod/rheoli, gan sicrhau eu bod gwireddu eu potensial llawn mewn sector sy’n esblygu yn barhaus.
Roedd y dysgwyr cyntaf i gwblhau’r cymhwyster yn cynrychioli amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys Seraph Property Management, Dawsons Estate Agents a Chymdeithas Tai Newydd, sy’n pwysleisio’r galw yn y diwydiant am gymhwyster cyfredol o’r fath hwn.
Dywedodd Danielle Vaughan, Swyddog Tai Cymunedol Tai Calon a gwblhaodd y cymhwyster:
“Dw i’n sicr yn argymell y cymhwyster hwn, mae’n fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am sicrhau gyrfa ym maes rheoli eiddo. Mae’r addysgu a’r adnoddau yn rhagorol ac fe wnaeth y cymorth a dderbyniais hwyluso’r broses o gydbwyso astudio â gwaith.
Mae'r wybodaeth rydw i wedi'i hennill, yn enwedig o ran deddfwriaethau, wedi rhoi hwb i'm hyder yn fy rôl. Rydw i bellach yn awyddus i symud ymlaen i lefelau uwch, a byddwn i'n annog unrhyw un sy'n ystyried cofrestru i fynd amdani, mae'n gwrs mor strwythuredig a gwerth chweil.”
Soniodd Ricky Purdy, Perchennog Busnes a Phennaeth Gosod Preswyl Dawsons Estate Agents am effaith y cymhwyster ar y sefydliad:
“Mae’r cymhwyster yn ychwanegiad ardderchog at ein rhaglen hyfforddi. Mae ein tîm wedi’i elwa o hyfforddiant cyfredol a diddorol, ac maent wedi dysgu pethau y gallant roi ar waith ar unwaith yn eu rolau. Mae’r rhaglen eisoes wedi cael effaith bositif wrth i staff feithrin hyder a chysondeb ar draws yr adran gosod tai. Rwy’n credu y bydd y cwrs yn allweddol wrth osod meincnodau ar gyfer safonau proffesiynol o fewn ein diwydiant.”
Ychwanegodd Douglas Haig, Rheolwr-gyfarwyddwr The Seraph Group, Cyfarwyddwr Anweithredol yr NRLA, ac Aelod o Fwrdd CIH Cymru:
“Mae’n wych gweld y cymhwyster mawr ei angen hwn yn derbyn ei raddedigion cyntaf. O ystyried yr heriau a’r newidiadau yn y sector rhentu preifat, mae angen y cymhwyster hwn fwy nag erioed, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda sefydliad dysgu blaengar a sionc.
Fe wnaeth un o aelodau tîm The Seraph Group fanteisio ar y cwrs, a chawson ni adborth gwych. Roedd yn bleser mynd i’r digwyddiad, a siarad â’r dysgwyr a’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r cwrs. Dwi wrth fy modd o weld bod y cwrs Lefel 3 eisoes yn cael ei ddatblygu.”
Dywedodd Lucy Burd, Rheolwr Masnachol Tai yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
“Llongyfarchiadau i’r dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster newydd hwn. Dyma garreg filltir wych yn eich gyrfaoedd ac rydych wedi sicrhau gwybodaeth a sgiliau arbenigol i daclo heriau o fewn y sector rhentu preifat modern, gan osod meincnod newydd ar gyfer gwasanaeth o safon.
Roedd y digwyddiad yn ddathliad o waith caled, ymrwymiad a thwf proffesiynol, ac fe wnaeth gydnabod dysgwyr sydd nid yn unig wedi cyflawni eu cymhwyster ond hefyd wedi dangos ymrwymiad rhagorol i wella safonau yn y sector rhentu preifat.
Hoffai Coleg Gŵyr Abertawe longyfarch yr holl ddysgwyr am eu cyflawniadau rhagorol. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o ymroddiad parhaus y Coleg i hybu datblygiad proffesiynol a rhagoriaeth o fewn y diwydiant tai.
Am ragor o wybodaeth am y cymhwyster a sut y gall gefnogi eich sefydliad, e-bostiwch training@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400.