Roedd hi’n noson o ddathlu a balchder wrth i fyfyrwyr o Academïau Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe ddod ynghyd yn Village Hotel fel rhan o’u Noson Wobrwyo flynyddol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gydnabod gwaith caled, ymroddiad a chyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr ar draws ystod eang o gampau.
Fe wnaeth timau rygbi a phêl-droed dynion yn ogystal â thimau phêl-droed a phêl-rwyd menywod fynychu’r digwyddiad, gydag amrywiaeth o wobrau yn cael eu cyflwyno i gydnabod llwyddiannau unigol ac ar y cyd drwy gydol y flwyddyn.
“Am ddigwyddiad gwych - roedd yn ddathliad gwirioneddol o dalent, dyfalbarhad ac ymrwymiad. Mae cyflawniadau eleni wedi bod yn rhagorol a dylai pob un dysgwr a staff fod yn hynod falch. Llongyfarchiadau myfyrwyr a enwebwyd ar gyfer gwobrau a da iawn i’r holl enillwyr haeddiannol,” meddai Christopher Lloyd Williams, Rheolwr Maes Dysgu ar gyfer Chwaraeon a Gwasanaethau Diogelu.
Ydych chi’n ystyried ymuno ag un i’n hacademïau chwaraeon? Darganfyddwch sut i ymuno â'r academi chwaraeon yma.