Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gefnogi Wythnos Addysg Oedolion 2025

Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gefnogi Wythnos Addysg Oedolion 2025

Mae’r Coleg wedi nodi Wythnos Addysg Oedolion 2025 trwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau arbennig, cyrsiau am ddim a sesiynau blasu.

Wythnos Addysg Oedolion (WAO) yw dathliad addysg gydol oes mwyaf Cymru, gyda dros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Bwriad yr ymgyrch yw ysbrydoli pobl i ddarganfod eu hangerdd am ddysgu, gan ddatblygu eu sgiliau cyflogaeth drwy gydol eu bywyd.

I ddathlu’r digwyddiad, roedd y Coleg yn falch iawn o groesawu un o gewri rygbi Cymru a llysgennad WAO, Alun Wyn Jones i gampws Llys Jiwbilî lle ymunodd â dosbarth gwaith coed. Yn ystod y dosbarth fe wnaeth dynnu sylw pobl at bŵer trawsnewidiol addysg, ar unrhyw adeg mewn bywyd.

Yn ystod ei ymweliad, fe wnaeth Isaac Fabb - enillydd Gwobr Ddysgu Insipire! a chyn-fyfyriwr CGA - ymuno ag ef. Bellach, mae Isaac yn gweithio i Gyngor Abertawe fel prentis saer coed.

Yn y digwyddiad lansio yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, cafodd y mynychwyr gyfle i glywed gan Paul Kift (Dirprwy Dros Dro’r Coleg), Jane Lewis o Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) a Phennaeth Hyfforddiant CGA, Bruce Fellowes.

Yn ogystal â hyn, fe wnaeth Stuart Davies, Ymgynghorydd Datblygu Busnes y Coleg gynnal trafodaeth ar fuddion datblygu’r gweithle. Ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y drafodaeth roedd Jonathan Morris o Tai Tarian, Lucy Hole o’r Secret Hospitality Group a Jane Lewis.

Mae prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithle, sy'n cynnig hyfforddiant mewn gweithgynhyrchu uwch a chlyfar, digidol a TGCh, ynni ac ynni adnewyddadwy, adeiladu, ac iechyd a gofal, wedi'i ariannu'n rhannol gan y Rhaglen Sgiliau a Thalent drwy'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Fe wnaeth bron i 200 o bobl gofrestru ar gyfer noson agored addysg i oedolion y Coleg ar Gampws Tycoch, a oedd yn cwmpasu ystod eang o gyrsiau, o ddarpariaeth ran-amser i opsiynau Mynediad ac addysg uwch. Roedd y pynciau a gynigiwyd yn cynnwys mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth (TGAU), gwallt a harddwch, peirianneg, ac arlwyo. Cafodd ymwelwyr gyfle i siarad â darlithwyr a chael cyngor gan sefydliadau partner y Coleg fel Cyngor Abertawe a Gyrfaoedd Cymru.

Cynhaliwyd sesiynau blasu hyd a lled Abertawe, lle cafodd dysgwyr gyfle i gofrestru ar gyfer sesiynau sgiliau creadigol am ddim mewn meysydd megis clytwaith, brodwaith seshiko a gwau. Roedd help ar gael i’r rhai a oedd angen cymorth gyda chwblhau ffurflenni, diogelwch ar-lein a chyllidebu.

Roedd y cyrsiau hyn, - cafodd eu cynnal yn y gymuned - yn ffordd wych i oedolion hybu eu hyder a'u lles, darganfod angerdd newydd, neu gysylltu ag unigolion eraill sy’n rhannu eu hangerdd.

Hefyd, cafodd gweminarau ar-lein eu cynnal ar gyngor ac arweiniad, datblygu cymunedol a chymwysterau rheoli prosiectau.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyrsiau i oedolion drwy gydol y flwyddyn.

Drwy raglen Sgiliau ar gyfer Abertawe, mae cyrsiau ar gael i unigolion 19 oed a hŷn sy'n dymuno ailhyfforddi ac uwchsgilio mewn amrywiaeth o sectorau diwydiant megis digidol, iechyd a diogelwch, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli cyfleusterau.