Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn Lansio Cyfleuster Hyfforddiant Gorchuddio Lloriau Cyntaf Cymru

Coleg Gŵyr Abertawe yn Lansio Cyfleuster Hyfforddiant Gorchuddio Lloriau Cyntaf Cymru

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cryfhau ei safle fel yr unig ddarparwr prentisiaethau gorchuddio lloriau yng Nghymru, trwy agor cyfleuster hyfforddi newydd sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant gyda’r nod o ateb y galw cynyddol ar draws y diwydiant lloriau.

Mae’r gofod pwrpasol hwn, a leolir ar Gampws Llys Jiwbilî y Coleg yn Fforestfach, wedi cael ei ddatblygu i gefnogi addysgu prentisiaeth Gorchuddio Lloriau Lefel 2, rhaglen arbenigol sy’n rhoi sgiliau, arbenigedd technegol a phrofiad ymarferol i brentisiaid fel y gallant symud ymlaen yn y grefft.

I nodi’r agoriad, bydd y Coleg hefyd yn agor ei ddrysau i gyflogwyr, gan eu gwahodd i alw heibio ac archwilio’r cyfleusterau newydd yn uniongyrchol ar ddydd Mercher 13 Mai. Gallwch gadw lle trwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Crëwyd y cyfleuster newydd hwn er mwyn ymateb yn uniongyrchol i'r galw cynyddol gan gyflogwyr a'r sector ehangach. Mae'n cynnig amgylchedd pwrpasol (o safon y diwydiant) lle gall dysgwyr fireinio ar eu technegau, ennill profiad ymarferol ac uwchsgilio yn unol ag arferion proffesiynol cyfredol.

Fel yr unig ddarparwr sy’n cynnig y brentisiaeth hon yng Nghymru, mae’r Coleg yn parhau i chwarae rôl hollbwysig wrth fynd i’r afael â bylchau sgiliau a chefnogi datblygiad y gweithlu ar draws y diwydiant.

Dywedodd Lucy Bird, Rheolwr Masnachol Coleg Gŵyr Abertawe:

“Mae agor y cyfleuster newydd hwn yn gam sylweddol ymlaen i'r Coleg. Fel unig ddarparwr y brentisiaeth hon yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau'r safonau uchaf posib o ran cynnig hyfforddiant a chymorth i'n dysgwyr a'n cyflogwyr. Mae'r cyfleuster pwrpasol hwn yn caniatáu i'n hyfforddwyr ddarparu addysgu ymarferol a pherthnasol i'r diwydiant sy'n adlewyrchu gweithleoedd go iawn, tra hefyd yn rhoi hyder i gyflogwyr drwy sicrhau bod eu staff yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo."

Ychwanegodd Neil Brayshaw, Cyfarwyddwr Dros Dro Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg:

"Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnig y cyfleuster newydd hwn o safon y diwydiant i gefnogi anghenion sgiliau o fewn y diwydiant gosod lloriau. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyflogwyr i'n diwrnod galw heibio i arddangos y cyfleuster newydd, trafod gofynion sgiliau gyda'n tîm darparu ac arwain, yn ogystal ag ateb cwestiynau ynghylch sut y gallwn gefnogi twf eich busnes trwy hyfforddiant a phrentisiaethau pwrpasol."

Dywedodd Keith Aspinwall o Heritage Carpet and Flooring Ltd:

"Rwy’n falch iawn o weld Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig prentisiaeth mewn gosod lloriau. Rydyn ni wedi bod yn aros i rywun gynnig cymhwyster o’r fath o fewn y diwydiant ers tro byd. Fe wnes i recriwtio prentis 18 mis yn ôl ac rwy'n falch iawn o ddweud ei fod wedi bod yn mynd o nerth i nerth dan hyfforddiant y tîm, ac rydw i’n derbyn adborth bob mis.

Mae'r brentisiaeth yn cynnwys ystod eang o dasgau fel hunan-lefelu lloriau gorffenedig ac ati, a byddwn yn bendant yn annog cyflogwyr i gofrestru prentisiaid ar y cwrs."

Digwyddiad galw heibio cyfleuster gorchuddio lloriau

Gall cyflogwyr drefnu amser cyfleus rhwng 9am a 4pm ar ddydd Mercher 13 Mai, i weld y cyfleuster ar Gampws Llys Jiwbilî, cwrdd yn uniongyrchol â’r tîm addysgu a thrafod y rhaglen brentisiaeth, gofynion eu gweithlu, a’r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr yn y Coleg.

Gallwch fwcio lle ar y diwrnod galw heibio drwy ddefnyddio'r linc hon.

Dyma gyfle gwerthfawr i fusnesau archwilio sut y gall prentisiaeth mewn gorchuddio lloriau ddatblygu sgiliau gweithwyr a chynnig ffordd hirdymor o hybu twf.

Am ragor o wybodaeth neu fanylion am y sesiwn galw heibio ar 13 mai, e-bostiwch training@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400.