Braf iawn yw cyhoeddi ein bod wedi penodi Paul Kift yn Bennaeth newydd.
Mae Paul yn un o gyn-fyfyrwyr Gorseinon ac mae ganddo hanes hir a llwyddiannus yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunodd yn gyntaf fel Cyfarwyddwr, cyn symud ymlaen rôl Dirprwy Bennaeth a bellach mae e wedi sicrhau rôl Pennaeth.
Cyn ymuno â’r Coleg gweithiodd Paul mewn amryw o rolau rheoli o fewn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, ar ôl gweithio i Capital Law a Choleg Caerdydd a’r Fro.
Yn ystod ei amser yng ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Paul wedi chwarae rhan allweddol wrth arwain y Coleg at statws arobryn ac mae e wedi cyfrannu at y broses o sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol mewn perthynas â rhagoriaeth ac arloesedd o ganlyniad i waith y Coleg ym meysydd addysg bellach a sgiliau.
Dan ei arweinyddiaeth, mae’r Coleg wedi ennill nifer o wobrau clodfawr, gan gynnwys dwy Wobr Beacon Cymdeithas Colegau'r DU am Ryngwladoli (2022/23). Mae hyn yn adlewyrchiad o amrywiaeth eang y Coleg o fentrau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu dysgwyr, cyflogwyr, staff a chymunedau ar raddfa ryngwladol. Dan lyw Paul, mae’r Coleg hefyd wedi bod yn llwyddiannus yng nghategori Ehangu Cyfranogiad (2023/24), sy’n deyrnged i fenter ‘Prentisiaethau i Bawb’ y Coleg, sydd wedi gwella symudedd cymdeithasol unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.
Yn ogystal â hyn, mae Paul wedi hwyluso newidiadau i ansawdd darpariaeth y Coleg sydd wedi arwain at gynnydd mewn nifer myfyrwyr, gwell bartneriaethau â’r diwydiant a chyfleoedd ehangach i ddysgwyr y tu hwnt i’w hastudiaethau.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Paul:
“Anrhydedd o’r mwyaf yw cael fy mhenodi yn Bennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. Ar ôl dechrau fy nhaith yma yng Ngorseinon, mae’r Coleg yn arbennig iawn i mi. Dw i’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni hyd yma ac rwy’n gyffrous i gael cyfle i arloesi, cydweithio a darparu canlyniadau rhagorol i’n dysgwyr, staff a’n partneriaid.”
Ychwanegodd Kelly Fountain, Prif Swyddog gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe:
“Mae penodiad Paul yn nodi pennod gyffrous newydd i Goleg Gŵyr Abertawe. Mae ei ddealltwriaeth eang o gymuned y Coleg a’i brofiad o weithio mewn rolau arweiniol yn ei gwneud yn berson delfrydol i’n harwain. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni barhau i gynnig profiadau dysgu ysbrydoledig, gan atgyfnerthu ein safle fel un o ddarparwyr addysg bellach mwyaf blaenllaw Cymru.”
Dywedodd Ian Price OBE, Cadeirydd y Llywodraethwyr:
“Drwy gydol y broses recriwtio, cafodd Paul argraff dda arnom gyda’i arweinyddiaeth ragorol, ei fewnwelediad strategol a’i ymrwymiad i’n myfyrwyr, staff a’n cymuned.
“Croesawn ef yn gynnes i'w rôl newydd fel Pennaeth y Coleg ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni barhau i ddarparu profiadau rhagorol i’n dysgwyr a chynnig amgylchedd cefnogol i’n staff.”